Amser sgrîn

Mae amser sgrîn a thechnoleg ddigidol yn rhan bwysig o fywydau plant ac oedolion - a hynny fwy fyth ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth. Mae ffonau clyfar a llechi yn wych ar gyfer cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu ar adegau fel hyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn i blant a phlant yn eu harddegau gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau.  

Mae llawer o deuluoedd am ddod o hyd i gydbwysedd rhesymol rhwng yr amser gaiff ei dreulio o flaen sgrîn ac amser ar gyfer yr holl bethau hwyliog, bywiog a chymdeithasol eraill y gallai dy blentyn eu gwneud. Ond, os wyt ti’n poeni bod dy blentyn yn treulio gormod o amser o flaen y teledu, sgrîn cyfrifiadur, ffôn neu lechen, mae gennym lu o awgrymiadau ar gyfer cefnogi agwedd gytbwys tuag at amser sgrîn i fabanod, plant a phlant yn eu harddegau.

Amser sgrîn - elfennau cadarnhaol a negyddol

Gall amser sgrîn, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau presennol, greu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer:

  • cylchoedd cymdeithasol a chyfeillgarwch
  • gwybodaeth a dysgu
  • adloniant a mwynhad
  • cadw cysylltiad gyda ffrindiau.

Yn ogystal, gall amser sgrîn gael effaith negyddol ar:

  • iechyd a gweithgarwch
  • amser teulu
  • ansawdd cwsg
  • golwg.

Bydd plant a phlant yn eu harddegau’n defnyddio ac yn rhyngweithio gyda sgriniau mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau o’u bywydau. Felly mae gennym awgrymiadau anhygoel penodol ar gyfer gwahanol oedrannau i dy helpu i gefnogi dy blentyn, waeth beth fo’u hoed. 

Darganfod mwy am amser sgrîn ar gyfer babis a phlant bach

Darganfod mwy am amser sgrîn i blant

Darganfod mwy am amser sgrîn i blant yn eu harddegau 

Gormod o amser sgrîn?

Mae’r mwyafrif o bobl yn cytuno nad yw rhywfaint o amser sgrîn yn niweidiol ynddo’i hun, ond yr hyn sy’n bwysig yw beth mae’r plant yn ei wneud ar eu sgriniau. Er enghraifft, efallai bod plant h?n yn defnyddio galwadau fideo i weld a sgwrsio gyda’u ffrindiau. Bydd rhyngweithio ar-lein gyda ffrindiau’n eu helpu i deimlo eu bod yn rhan o’r gr?p a bydd yn eu helpu i gynnal cyfeillgarwch. Bydd hyn yn bwysig pan gaiff rheolau pellhau cymdeithasol eu llacio.

Mae erthyglau diweddar yn y cyfryngau, fel hon gan y BBC, yn awgrymu efallai bod rhai plant yn cael gormod o amser sgrîn.

Ar hyn o bryd, mae cynnal cyfeillgarwch ar-lein yn bwysig i bob un ohonom. Bydd cefnogi’r math yma o weithgarwch ar-lein yn helpu plant i ddychwelyd i ryngweithio wyneb-yn-wyneb gyda’u ffrindiau pan fydd hynny’n bosibl.

Dydyn ni ddim yn awgrymu cymryd dyfeisiau digidol oddi wrth dy blentyn, ond mae’n bwysig rhoi amser, lle a rhyddid i blant chwarae draw oddi wrth sgriniau bob dydd.

Mae chwarae’n bwysig

Bydd plant yn cael amrywiaeth o ymarfer corff a buddiannau iechyd meddwl sylweddol pan fyddan nhw’n chwarae’n fywiog. Dylai pob diwrnod gynnwys rhywfaint o le ac amser i chwarae heb dechnoleg ddigidol. Mae gennym ddigon o syniadau chwareus ar gyfer y teulu cyfan.

Mae plant sydd ag amrywiaeth o bethau i’w gwneud a mannau i chwarae, fel arfer, yn well am reoli eu defnydd personol o ddyfeisiau a thechnoleg ddigidol. Er mwyn helpu dy blentyn i reoli ei amser sgrîn, gwna’n si?r bod amserau yn dy gartref ble na fyddwch yn defnyddio technoleg – er enghraifft, amser bwyd ac amser gwely.

Os byddi’n cyfyngu ar dy ddefnydd personol o’r sgrîn, ac yn modelu defnydd da a chymedrol o ddyfeisiau ac amser ar-lein o flaen dy blentyn, bydd yn sicr o ddysgu oddi wrthot ti. 

Hela Gryffalo

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau
English