Am chwarae

Cefnogi arddegwyr

Mae chwarae, hongian o gwmpas, ymlacio a chymdeithasu’n rhannau pwysig o fywydau arddegwyr. Maen nhw’n cyfrannu at ymdeimlad arddegwyr o hunaniaeth yn ogystal â’u datblygiad a’u lles.

Gall yr arddegau fod yn flynyddoedd sy’n llawn cyfleodd, ond o newidiadau a chynnwrf hefyd. Mae llawer yn digwydd yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol y mae rhaid i arddegwyr ddelio gyda nhw. Mae’n bwysig iddyn nhw allu gollwng stêm, cael hwyl a rhoi tro ar bethau. Mae’n adeg hefyd iddyn nhw ddarganfod eu hoff bethau a’u câs bethau, i newid eu meddwl am bethau a gwneud camgymeriadau neu newid llwybr. Mae llawer o hyn yn digwydd trwy chwarae, cymdeithasu ac ymlacio.

Mae plant yn tyfu a datblygu yn eu hamser eu hunain. ’Does yna’r un llwybr unionsyth o blentyndod cynnar a thrwy’r arddegau i fod yn oedolyn y bydd pawb yn ei ddilyn.

Bydd gan dy blentyn yn ei arddegau ei gasgliad unigryw ei hun o brofiadau bywyd wrth dyfu i fyny, boed hynny’n ddigwyddiadau teuluol, anghenion iechyd neu gymorth ychwanegol, neu’n syml ddarganfod eu golwg eu hunain ar y byd a’u hoff bethau a’u câs bethau.

Gall deall angen arddegwyr i chwarae, ymlacio a chymdeithasu dy helpu i reoli heriau a gwobrau magu neu ofalu am arddegwyr.

Yn yr adran hon cewch hyd i gefnogaeth i rieni a gofalwyr arddegwyr.

English English