




Chwarae yn y gymuned.
Yn yr adran Chwarae yn y gymuned cei hyd i ganllawiau sut i, cyngor ymarferol ac enghreifftiau ysbrydoledig. Rydym wedi eu dewis er mwyn helpu i gynyddu a gwella cyfleoedd chwarae ar gyfer y plant a’r arddegwyr yn dy gymuned.
Bydd yr adran hon yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb gwella chwarae yn eu cymdogaeth leol, yn cynnwys:
Cynghorau cymuned, Grwpiau cymunedol, Grwpiau Gwarchod Cymdogaeth,Rhieni, neiniau, teidiau, mam-guod a thad-cuod, a gofalwyr, Pobl sy’n gweithio gyda phlant, arddegwyr a theuluoedd, Cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr, Cynghorwyr tref a chymuned.
Efallai y byddi am adnewyddu neu wella gofod chwarae sy’n bodoli eisoes neu greu un newydd. Efallai y byddi am gynyddu ymwybyddiaeth neu godi arian neu ddechrau ymgyrch i gefnogi chwarae. Neu, efallai dy fod yn chwilio am syniadau ac enghreifftiau i dy ysbrydoli. Bydd yr adran hon o’r wefan yn dy helpu i ddod o hyd i’r hyn yr wyt ei angen.


Y diweddaraf
Archwilia'r diweddaraf gan Plentyndod Chwareus


Ein cennad
Ein cennad I helpu oedolion i roi plentyndod hapus, iach i blant drwy chwarae. Bob dydd.
Dysgu mwy