Telerau ac amodau

Darllenwch yr amodau a'r telerau a ganlyn yn ofalus, os gwelwch yn dda, gan eu bod yn rheoli'r defnydd o'r wefan hon: www.chwaraecymru.org.uk.

Eich defnydd o'r wefan hon: Y mae'ch defnydd o'r wefan hon yn golygu derbyn yr amodau a'r telerau hyn, sy'n dod i rym ar y diwrnod cyntaf y defnyddir y wefan. Yr ydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon er dibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n amharu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar, nac yn atal y defnydd o'r mwynhad o'r wefan hon gan unrhyw drydydd plaid. Y mae'r cyfryw gyfyngu ac atal yn cynnwys, heb gyfyngiad ymddygiad sy'n anghyfreithlon neu a all aflonyddu ar neu beri trallod neu anhwylustod i unrhyw berson, trosglwyddo deunydd anllad neu dramgwyddus neu darfu ar lif normal deialog o fewn y wefan hon.

Addasu'r amodau a'r telerau: Y mae Chwarae Cymru yn cadw'r hawl i newid yr amodau a'r telerau drwy bostio'r newidiadau ar-lein. Y mae parhau â'ch defnydd o'r wefan ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y'i addaswyd.

Ymwadiad

Darperir y wefan hon at ddibenion gwybodaeth yn unig. Tra bod Chwarae Cymru wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fod yr wybodaeth a'r gwaith graffeg perthnasol (a elwir yn "ddeunydd" o hyn ymlaen) a geir ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei gyhoeddi ni wneir, fynegir nac awgrymir unrhyw warant ynghylch ei gywirdeb neu ei addasrwydd i'r pwrpas. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb gan, neu ar ran, Chwarae Cymru a/neu ei gyflenwyr perthynol am unrhyw gamgymeriad, gwall, datganiad camarweiniol neu ganlyniadau'r cyfryw elfennau.

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am ein gwasanaethau, a materion eraill sy'n berthnasol i ddarparwyr chwarae. Ni fwriedir i'r deunydd fod yn ddatganiad cyflawn o'r gyfraith, ffaith neu weithdrefn ac ni ddylech ddibynnu arno, neu gyfleu i drydydd plaid ei fod yn un o'r uchod. Nid oes dim ar y wefan hon yn ffurfio cyngor cyfreithiol neu broffesiynol arall. Dylech bob amser geisio cyngor manwl gan gyfreithiwr neu berson proffesiynol/arbenigwr addas arall cyn gwneud penderfyniad i weithredu neu ymatal rhag gweithredu yn seiliedig ar gyfres benodol o ffeithiau.

Mae Chwarae Cymru ac/neu ein cyflenwyr perthynol yn gwadu pob cyfrifoldeb, i'r defnyddiwr uniongyrchol a phob trydydd plaid, am unrhyw ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol neu unrhyw ddifrod o unrhyw fath sy'n codi o ran cytundeb, camwedd neu fel arall (gan gynnwys, heb gyfyngiad, golledion am golli defnydd, data, busnes neu elw) o ganlyniad i ddefnyddio neu fethu defnyddio'r wefan hon.

Nid yw unrhyw gyfeiriad at sefydliad, cwmni neu unigolyn ar y wefan hon, neu ar unrhyw wefan arall y ceir dolen iddi, yn awgrymu bod Chwarae Cymru yn cymeradwyo neu'n gwarantu eu statws neu eu gallu, oni nodir yn wahanol.

Bydd Chwarae Cymru yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar ol bob cam o'i gynhyrchu Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyriad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd trwy drosglwyddo firws, neu trwy unrhyw fodd arall, all ddigwydd tra'n defnyddio'r wefan hon. Fe'ch cynghorir bob amser i redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lwythir i lawr o'r rhyngrwyd.

Hawlfraint

Oni nodir yn wahanol, Chwarae Cymru sy'n berchen ar hawlfraint neu hawliau cyffelyb yr holl ddeunydd a geir ar y wefan hon.

Cewch ddefnyddio unrhyw ddeunydd a geir ar y wefan hon trwy argraffu copi caled, ei lwytho i lawr i ddisg caled lleol neu fel arall cyn belled â'i fod at eu defnydd personol yn unig, ni chaiff ei gyflenwi fel rhan o waith neu gyhoeddiad arall, ac na chaiff ei gyflenwi'n uniongyrchol yn gyfnewid am fudd masnachol. Mae cyflenwi copi i drydydd plaid yn dibynnu arnoch i'w hysbysu am y ffaith bod yr amodau hyn yr un mor berthnasol iddynt hwythau.

Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd â hawlfraint Chwarae Cymru yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd plaid. Dylid derbyn caniatâd uniongyrchol i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliad perthnasol yr hawlfraint.

Caniateir copïo erthygl, dim ond os y caiff ei chopïo'n llawn a heb unrhyw newidiadau neu olygu. Caniateir cyfieithu ar y ddealltwriaeth y byddwch yn derbyn cyfrifoldeb llawn am gywirdeb y cyfieithiad.

Nid yw'r amrywiol ganiatâd hawlfraint a amlinellir yn yr amodau hyn yn cynnwys cynllun neu batrwm gwefan Chwarae Cymru. Ni ellir copïo nac aildrosglwyddo unrhyw logos, graffeg neu ddelwedd a geir ar wefan Chwarae Cymru heb ein caniatâd ysgrifenedig.

Byddem yn barod i ystyried ceisiadau am ganiatâd i raeadru neu ddefnyddio deunydd Chwarae Cymru y tu hwnt i gwmpas yr amodau hawlfraint a amlinellir uchod cyn belled â'ch bod yn derbyn ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Deunydd a gyflwynir gan ddefnyddwyr, aelodau a thrydydd pleidiau

Mae rhannau penodol o'r wefan yn cynnwys deunydd a gyflwynwyd gan ddefnyddwyr, aelodau a thrydydd pleidiau fydd yn parhau'n gyfrifol bob amser am gynnwys y deunydd a gyflwynir ar y wefan hon yn golygu neu'n cyfleu bod Chwarae Cymru yn gwarantu, yn cymeradwyo neu'n cytuno â'r cynnwys, oni nodir hynny'n wahanol yn ffurfiol.

Nid yw Chwarae Cymru'n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau, hepgoriad neu anghywirdeb yn y deunydd a gyflwynir.

Mae Chwarae Cymru'n neilltuo'r hawl i hepgor, atal neu olygu unrhyw ddeunydd a gyflwynir.

Cysylltiadau â gwefannau eraill

Nid yw Chwarae Cymru yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau trydydd plaid y ceir dolen iddynt, naill ai i neu oddi wrth wefan Chwarae Cymru, ac nid ydym o angenrheidrwydd yn cefnogi'r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Dylai unrhyw wefan sy'n dymuno creu dolen â gwefan Chwarae Cymru, neu sy'n gofyn am gael creu dolen iddynt hwy, gysylltu â'n gwasanaeth gwybodaeth.

Cywirdeb y cynnwys

Tra y gwnaethpwyd pob ymdrech rhesymol i sicrhau cywirdeb y cynnwys, ni ellir cymryd cyfrifoldeb am unrhyw wall neu hepgoriad.

Diogelu Rhag Firws

Mae Chwarae Cymru yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o'i gynhyrchu. Fe'ch cynghorir bob amser i redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lwythir i lawr o'r rhyngrwyd.

Ni all Chwarae Cymru dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyriad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra'n defnyddio deunydd sy'n deillio o wefan Chwarae Cymru.

Sylwadau neu gwynion

Caiff yr Amodau a'r Telerau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Fe fydd unrhyw anghydfod sy'n codi yma yn gyfan gwbl yn amodol ar awdurdodaeth y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Dylid anfon unrhwy sylwadau neu gwestiynau parthed y wefan hon at ein Gwasanaeth Gwybodaeth

English