Ble oeddet ti’n chwarae pan oeddet ti’n fach?
Ysgrifennwyd gan Pop-Up Adventure Play
Pop-up Adventure Play sy’n siarad am fuddiannau deunyddiau bob dydd ar gyfer chwarae plant mewn mannau cyhoeddus
Dyma’r cwestiwn yr ydym wedi ei ofyn i bobl dros y byd i gyd, fydd yn aml yn gwenu wrth sôn wrthym am gornel fechan yng ngardd mam-gu, neu’r siglenni ble byddai pawb yn cwrdd, neu nant fechan oedd yn llifo ar gwr y coed. Yn aml, mae’r rhain yn fannau fyddai oedolion fyth yn sylwi arnyn nhw, ond oedd yn llawn hud er hynny. Yn bwysicaf oll, roedd y mannau hyn ar riniog drws y plant, y tu ôl i’r tai neu mewn llecyn cyhoeddus. Roedd y mannau hyn yn hygyrch, am ddim. Roedden nhw’n gyffredin, yn yr ystyr gorau posibl.
Mae’r rhwystrau cyfoes i chwarae plant yn rhai difrifol a chymhleth. Mae’n hawdd meddwl y bydd problemau mor anferthol angen datrysiadau ar raddfa fawr ond, os ydym am i blant allu chwarae bob dydd o’u bywydau, byddwn yn edrych ar y byd trwy eu llygaid nhw. Gall y teimlad yna o chwilfrydedd a chyfle ddangos bylchau a chorneli inni ble y gellid annog chwarae, ei groesawu, a’i wahodd. ’Does dim rhaid i’r broses yma aros tan i ddeddfau newid neu i ffrydiau ariannu agor. Gall unrhyw un gychwyn, heddiw.
Ers 2010, rydym wedi bod yn hyrwyddo syniad o’r enw’r Maes Chwarae Antur Unnos. Mae’n fodel rhagarweiniol ar gyfer chwarae rhannau rhydd, sy’n dwyn ynghyd ddeunyddiau cyffredin ar gyfer chwarae plant mewn mannau cyhoeddus. Mae cannoedd o drefnwyr annibynnol o amgylch y byd, mewn dinasoedd a phentrefi, sy’n cefnogi chwarae plant mewn parciau a meysydd parcio, amgueddfeydd plant, ysbytai, orielau celf, marchnadoedd ffermwyr a neuaddau eglwysi.
Mae Meysydd Chwarae Antur Unnosyn rhad ac am ddim, gallant fod o unrhyw faint, ac maent wedi denu torfeydd sy’n amrywio o gwpwl o blant i filoedd. Bob tro, bydd trefnyddion newydd yn dweud wrthym am sgyrsiau a gawsant gyda’u cymdogion, eu bod wedi eu rhyfeddu gan bopeth yr oedd y plant wedi eu creu, a’u bod wedi cael hwyl.
Mae cymuned yn air syml ond mae cyd-fyw yn gymhleth. Mae lleoli chwarae wrth galon ein cymunedau’n dangos ein bod yn malio am ein plant, pob plentyn, ar eu mwyaf diniwed. Bydd creu cyfleoedd gweladwy ar gyfer chwarae’n helpu i atgoffa pobl o bob oed i chwarae, trwy wneud gofod cyhoeddus fymryn yn brafiach a mwy od. Mae chwarae, yn ei hanfod, yn atyniadol a dengar, a gan amlaf bydd trefnyddion yn sylweddoli ar ddiwedd y diwrnod bod ganddynt fwy o ffrindiau nag oedd ganddynt y bore hwnnw.
’Does dim rhaid ichi gynnal ‘digwyddiad’ mawr i roi cychwyn ar bethau. Gall dod â sialc palmant allan fod yn ffordd syml i wahodd pobl sy’n pasio heibio i sgipio trwy ysgol ‘sgots’ neu i neidio dros bwll o lafa chwilboeth, a gall ychydig o focsys cardbord ehangu a chynyddu’r chwarae. Rydym wedi gweld pobl yn cychwyn gyda hyn ac, yn araf bach, greu cymuned o amgylch y syniadau hyn, gan ehangu’n fentrau sy’n cynnwys yr ysgol leol neu ar draws y gymuned gyfan.
Gall dod â rhannau rhydd i mewn i ofod cyhoeddus gyfoethogi ac ehangu ein hymdeimlad o’r hyn yw cymuned, wedi ei arwain gan anghenion a brwdfrydedd ein dinasyddion lleiaf. Plant yw ein cymdogion mwyaf cymdeithasol, sy’n ystyried y byd gyda meddwl agored llawn chwilfrydedd ac ymdeimlad o antur. Gall chwarae plant, yn llythrennol, adfywio gofodau cyhoeddus ein cymunedau ac ailfywiogi ein cysylltiadau â’n gilydd. Pan roddwn le ac amser i blant chwarae’n gyhoeddus, fe allan nhw ysbrydoli’r un rhinweddau ynom ni a’n hatgoffa lle mor hwyliog y gall y byd fod.