Boncyrs am concyrs

Boncyrs am concyrs

Wrth i ni ffarwelio â’r haf ac mae'r tymor yn dechrau newid, mae’n amser gwych o’r flwyddyn i fynd yn boncyrs am goncyrs!

Pam concyrs?

Rydym eisiau dangos bod yr Hydref yn amser perffaith i fynd allan i chwarae ac archwilio ym myd natur. Un gêm rydym yn canolbwyntio arni yw concyrs.

Gan bod iechyd emosiynol a chorfforol mor bwysig i hapusrwydd a datblygiad plentyn, rydym yn canolbwyntio ar chwarae concyrs gan ei bod yn annog plant i fynd allan i gael awyr iach, a’u tynnu oddi wrth sgriniau ... ac wrth gwrs rhoi cyfle i’r gêm fod yn boblogaidd eto!

Methu cofio sut i chwarae concyrs?

Rydym wedi creu fideo i’ch atgoffa!

Chwarae concyrs cam wrth gam:

  • Beth sydd ei angen ar gyfer gêm o concyrs
  • Sut i baratoi am gêm o concyrs
  • Sut i chwarae.

A nawr byddwch chi yn barod i frwydro!

Manteision adeiladu cuddfan – ffordd wych o gael hwyl, beth bynnag fo’r tywydd!

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Teithiau cerdded chwareus

Erthygl nesaf
English