Syniadau chwarae yn yr awyr agored

Syniadau chwarae yn yr awyr agored

Mae digon o ffyrdd syml a chwareus y galli di a dy blant gael hwyl tu allan yn yr awyr iach, heb orfod gwario llawer o arian.

I dy helpu i wneud y mwyaf o dy amser chwarae, dyma 36 o’n hoff syniadau, wedi’u rhannu ar draws chwe lle poblogaidd yn yr awyr agored i ymweld â nhw a'u mwynhau.

Chwe pheth i'w gwneud yn dy ardd:

  1. creu cwrs rhwystrau
  2. cael cystadleuaeth ddawnsio
  3. adeiladu gwesty bygiau
  4. chwarae ‘Faint o’r gloch, Mistar Blaidd?’
  5. creu trwythau
  6. cael picnic tedis

Chwe pheth i'w gwneud ar y traeth:

  1. adeiladu cestyll neu gerfluniau tywod
  2. casglu cregyn, cerrig mân neu wydr môr diddorol
  3. chwarae siapiau O X O yn y tywod
  4. gwneud angylion tywod
  5. mynd i’r pyllau glan môr a chwilio am greaduriaid bach
  6. mynd i badlo

Chwe pheth i'w gwneud ar y palmant tu allan i dy gartref:

  1. tynnu llun â sialc a chwarae ’sgots
  2. peintio gyda d?r gan ddefnyddio brwshys neu sbyngau
  3. llunio map a gwneud helfa drysor
  4. chwarae Mochyn yn y canol
  5. rasio awyrennau papur
  6. cael brwydr dd?r

Chwe pheth i'w gwneud yn dy fan gwyrdd neu dy barc lleol:

  1. chwarae tag
  2. chwilio am fwystfilod bach
  3. cael ras whilber/ferfa (gochela rhag baw ci!)
  4. chwarae ‘mi wela i, â’m llygad bach i...’
  5. creu dy Gemau Olympaidd dy hun
  6. chwarae cuddio

Chwe pheth i'w gwneud ar daith gerdded drwy goetir:

  1. chwilio am adar
  2. cofleidio coeden (rho cwtsh bach i fyd natur!)
  3. cyfri'r synau (gorweddwch ar y ddaear gyda’ch lygaid ar gau a chyfrifwch faint o wahanol synau y gallwch chi eu clywed)
  4. gwneud cuddfan
  5. casglu brigau, dail a cherrig a chreu celf natur
  6. dringo coeden

Chwe pheth i'w gwneud ar daith gerdded ar hyd yr afon:

  1. chwarae brigau’n rasio dros unrhyw bontydd rwyt ti’n eu croesi
  2. gwneud helfa sborion
  3. bwydo hwyaden (dim bara, os gweli di’n dda – galli di gynnig letys, corn melys, pys wedi'u rhewi, ceirch, hadau neu reis)
  4. creu cwch allan o frigau a dail
  5. chwilio am bysgod
  6. sblasio mewn pyllau

 

Lawrlwytha'r rhestr Syniadau chwarae yn yr awyr agored.

Rhowch fwy o Amser i Chwarae i blant

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

“Dy’n ni ddim mor wahanol i chi, ’dan ni jesd yn gwneud tiktoks”

Erthygl nesaf
English