Cynlluniau chwarae mynediad agored dros y gwyliau
Mae manteision chwarae yn dra hysbys. Mae chwarae yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, sgiliau creadigol a hunan-barch. Mae’n helpu plant i herio eu hunain, cadw’n heini a gwneud synnwyr o bethau anodd. Ond, yn bennaf oll, mae chwarae'n hwyl!
Mae yna lu o ffyrdd y gelli di sicrhau bod dy blentyn yn cael llawer o gyfleoedd i chwarae, gan gynnwys defnyddio cynlluniau chwarae mynediad agored dros y gwyliau yn dy ardal di. Yn y blog hwn, rydym yn trafod beth yw'r ddarpariaeth hon a beth yw rôl y gweithwyr chwarae sy’n ei rhedeg.
Beth yw cynlluniau chwarae mynediad agored dros y gwyliau?
“Yr hyn mae hi'n ei hoffi am gyfleoedd chwarae mynediad agored yw’r dewis. Felly dyw e ddim yn rhywle ble mae rhywun yn dweud wrthi am eistedd neu'n dweud wrthi beth i'w wneud. Mae'n gallu gwneud beth bynnag mae hi'n ei ddewis heb fawr ddim goruchwyliaeth, ac mae'n gallu dod i adnabod pobl, mwynhau ei hun a chael hwyl.” Jenny, rhiant
Fel arfer, mae cynlluniau chwarae mynediad agored dros y gwyliau yn cael eu rhedeg gan gynghorau lleol neu grwpiau cymunedol. Maen nhw'n cael eu darparu'n rhad ac am ddim neu am bris isel, yn cael eu staffio gan weithwyr chwarae ac yn cael eu cynnal mewn lleoliadau fel canolfannau cymunedol, parciau a mannau agored eraill. Er bod y cynlluniau chwarae hyn yn cael eu galw'n gynlluniau 'mynediad agored', mae rhieni'n dal i fod yn gyfrifol am fynd â'u plant yno a'u casglu – ond os wyt ti’n fodlon i dy blentyn fynd a dod ar ei ben ei hun, mae hynny'n iawn fel arfer hefyd.
Yn y sesiynau, mae’r plant yn cael eu cefnogi i chwarae sut bynnag y dymunant, heb lawer o ymyrraeth gan oedolion. Pan fydd plant yn cael y math yma o ryddid i chwarae, yn ogystal â chael hwyl, maen nhw hefyd yn cael amrywiaeth eang o fanteision eraill – fel bod yn fwy egnïol yn gorfforol a dysgu sgiliau newydd. Mae'r fideo isod yn amlygu'r prif agweddau ar gynlluniau chwarae mynediad agored dros y gwyliau.
Cynlluniau chwarae dros y gwyliau yn eich ardal chi
I ddod o hyd i gynlluniau chwarae mynediad agored dros y gwyliau yn dy ardal di, edrycha ar wefan dy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.
Rôl gweithwyr chwarae
“Rwyf wastad yn barod i adael i blant archwilio ac arbrofi, ac rwy'n ceisio peidio â dweud na. Rwy'n ceisio dweud 'beth am i ni?' yn lle hynny.” Glyn, gweithiwr chwarae
Mae cynlluniau chwarae mynediad agored dros y gwyliau yn cael eu staffio gan weithwyr chwarae medrus, sy'n goruchwylio plant ac yn eu cefnogi i ddewis beth i'w chwarae a gyda phwy i chwarae. Deall sut i gefnogi plant i chwarae yw'r dasg bwysicaf i weithiwr chwarae.
Mae gwaith chwarae yn alwedigaeth gydnabyddedig gyda set o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd. Mae'n wahanol i lawer o broffesiynau eraill sy'n gweithio gyda phlant lle y gall y ffocws fod ar ddysgu, gweithgaredd corfforol neu'r celfyddydau, er enghraifft. Gall gwaith chwarae fod yn yrfa amser llawn neu'n rhywbeth sy'n digwydd ochr yn ochr ag astudio neu waith arall. Mae set o ganllawiau o'r enw Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae yn diffinio’r hyn sy’n unigryw am waith chwarae ac yn rhoi dealltwriaeth o’r hyn y mae gweithwyr chwarae’n ei wneud.
Mae'r fideo isod yn trafod yr hyn sydd ei angen er mwyn bod yn weithiwr chwarae.
Hyfforddiant gwaith chwarae a swyddi
Mae mwy o wybodaeth am hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae a swyddi sydd ar gael yn y sector gwaith chwarae ar wefan Chwarae Cymru.
Adnoddau ychwanegol