Gwyliau'r Pasg – syniadau chwarae
Mae gwyliau’r Pasg yn gyfle i blant ymlacio, dadweindio, a… chwarae!
Nid oes angen i chwarae a chael hwyl gostio ceiniog – y cyfan sydd ei angen yw amser, lle, rhyddid, ac ychydig o ddychymyg!
Cymer olwg ar y 10 syniad gwych hyn y gall dy blentyn roi cynnig arnynt – cymysgedd o weithgareddau awyr agored a dan do i blant o bob oed eu mwynhau.
1. Helfa sborion ar thema'r Pasg
Cuddia gliwiau neu heriau ar thema’r Pasg o gwmpas dy dŷ neu’r ardd i dy blentyn eu dilyn.
2. Cer ar daith natur wanwynol
Archwilia dy barciau, coetiroedd, llwybr arfordirol neu warchodfeydd natur lleol gyda dy blentyn ac anoga nhw i chwilio am arwyddion o bethau sy’n ymwneud â’r gwanwyn a’r Pasg – fel adar bach, anifeiliaid a blodau.
3. Adeiladu twll cwningen (adeiladu cuddfan)
Gall dy blentyn adeiladu ei guddfan ei hun yn yr ardd neu'r ystafell fyw – gan ddefnyddio blancedi, clustogau, cadeiriau, blychau, brigau a beth bynnag gallant ddod o hyd iddo i greu y cuddfan gwningod perffaith.
4. Addurno wyau
Defnyddia wyau go iawn (wedi'u berwi'n galed!), papur wedi'i dorri allan, neu greigiau. Gad dy blentyn i fynd yn wyllt gyda pha bynnag ddeunyddiau addurno sydd gennyt ti – fel pennau ffelt, paent, gliter a sticeri.
5. Creu gêm fwrdd
Gall dy blentyn ddyfeisio ei gêm ei hun – gan gynnwys yr holl reolau, lluniadu’r bwrdd, dylunio’r cardiau, a chreu gwobrau neu fforffediadau.
6. Sioe bypedau Pasg
Defnyddia hen sanau a gad i dy blentyn ddefnyddio ei ddychymyg i greu cwningod, cywion, neu ba bynnag gymeriad y gall feddwl amdano. Anoga dy blentyn i roi sioe wirion ymlaen gyda stori wych a llawer o chwerthin!
7. Parti dawns
Gall dy blentyn ddewis y rhestr chwarae yn llawn o'i hoff ganeuon a dyfeisio symudiadau dawns. Gallent hyd yn oed drefnu cystadleuaeth ddawns ar gyfer y teulu.
8. Creu cegin fwd
Defnyddia fwcedi, sosbenni, hen lwyau, dail, ffyn a chymaint o faw ag y gall dy blentyn ei gael. Gwna yn siwr ei bod yn gwisgo hen ddillad a bydda’n barod am oriau o hwyl poitshlyd.
9. Piniwch y gynffon ar y gwningen
Gall dy blentyn greu fersiwn thema-Pasg ei hun o'r gêm boblogaidd hon, trwy dynnu llun cwningen bapur i'w glynu ar y wal a defnyddio peli gwlân cotwm ar gyfer y gynffon.
10. Edrycha i weld pa weithgareddau rhad ac am ddim neu gost isel sy'n digwydd yn dy ardal leol
Efallai bod dy gyngor lleol yn cynnal gweithgareddau gwyliau neu gynllun chwarae yn dy gymdogaeth y gall dy blentyn gymryd rhan ynddynt. Cymer olwg ar dy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am ragor o wybodaeth.