Her 365 Diwrnod o Chwarae ym Myd Natur

Her 365 Diwrnod o Chwarae ym Myd Natur

Lisa Turner, sy’n rhiant, sy’n rhannu ei phrofiad o gwblhau her awyr agored ddyddiol gyda'i merch, er mwyn ysbrydoli teuluoedd eraill i dreulio mwy o amser tu allan drwy gydol y flwyddyn.

Drwy gydol 2025, fe wnes i a fy merch ‘B’ (sy’n 10 oed) gwblhau her: bob dydd, fe wnaethon ni rywbeth hwyliog tu allan yn y byd naturiol. Roedden ni’n gobeithio mynd i’r arfer o chwarae mwy y tu allan. Fe wnaethon ni roi adroddiadau dyddiol ar Instagram a Facebook a rhannu ein profiadau mewn blog.

Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi’u dysgu:

Roedd dod o hyd i amser yn anoddach na delio gyda’r tywydd gwael…

Gan ddechrau ar 1 Ionawr, roeddwn i'n meddwl mai'r peth anoddaf fyddai dod o hyd i bethau i'w gwneud yn y gaeaf. Mewn gwirionedd, doedd hyn ddim yn rhy anodd o gwbl. Fe wnaethon ni chwarae gyda chysgodion yn y niwl, sblasio mewn pyllau dŵr a gwneud baneri i'w hedfan yn y gwynt. Y peth anoddaf oedd dod o hyd i amser i chwarae ar ôl ysgol a rhwng clybiau. Ym mis Ionawr, roedd hyn yn ei gwneud hi'n arbennig o anodd mynd allan tra roedd hi dal yn olau. Roedd yn rhaid i ni wneud llawer o’r heriau yn y tywyllwch ac roedden ni'n  gwerthfawrogi'n fawr pan ddechreuodd yr haul fachlud yn hwyrach.

Mae plant 10 oed yn hoff iawn o hyn …

Fe wnaeth B fwynhau’r her yn llawer mwy nag oeddwn i wedi'i ddisgwyl. Roeddwn i wedi rhagweld strancio a llawer o ddadlau, ond wnaeth hynny ddim digwydd. Roedd hi'n troi ei thrwyn ar fy syniadau fi’n eithaf aml, ond roedd hi wrth ei bodd yn meddwl am ei syniadau ei hun. Dydy hi ddim yn hoff iawn o chwaraeon ac mae hi'n blentyn gofalus yn naturiol, ac mae hynny wedi ei gwneud hi'n anoddach ei chael hi i fwynhau bod allan yn y gorffennol. Nawr mae hi’n mwynhau hynny ac yn gwybod sut i ddod o hyd i'r pethau mae hi eisiau eu gwneud.

Y dyddiau gorau oedd y rhai symlaf yn aml…

Yn aml, y dyddiau gorau oedd y rhai rhad ac am ddim. Roedd pysgota am grancod yn wych ac, yn nes at adref, roedd rasio malwod yn hwyl hefyd. Roedd bod yn dditectifs natur a chwilio am lwynogod neu ddraenogod yn gwneud teithiau cerdded yn llawer mwy difyr. Rydyn ni’n byw mewn tŷ teras mewn tref, a chyn i ni ddechrau, roeddwn i wedi meddwl y byddai'n rhaid i ni deithio eithaf tipyn, ond cawson ni rai o'n hamseroedd gorau yn y tir agored y tu ôl i'r tŷ. Yno, roedden ni’n gallu chwarae gyda phethau ar hap a diddanu ein hunain heb boeni am niweidio unrhyw beth.

Mae B wedi dod yn fwy hyderus…

Wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, daeth B yn llawer mwy hyderus. Mae hi bellach yn gweld y byd naturiol fel lle chwarae. Ers symud i flwyddyn chwech yn yr ysgol, mae hi'n mynd allan ar ei phen ei hun gyda’i ffrindiau, yn chwilio am goncyrs ac yn rhedeg ar ôl dail sy'n cwympo. Mae'r her wedi rhoi llwyth o weithgareddau iddi sydd ddim yn golygu defnyddio technoleg. Pan fydd hi'n teimlo dan straen neu'n cael diwrnod gwael, mae hi’n dewis mynd allan, ac mae hynny’n gweithio'n llawer gwell na chwarae ar ei thabled.

Y pethau gorau i roi cynnig arnyn nhw...

I rieni a gofalwyr eraill, dyma rai o'r heriau y gwnaethon ni eu mwynhau fwyaf:

  • Rasio malwod (fe wnaethon ni gwrs mewn sialc a rhoi letys ar un pen a'r malwod ar y pen arall).
  • Dringo coed (fe gymerodd oesoedd i mi ddarganfod bod yn rhaid i chi ddod o hyd i goeden addas).
  • Chwarae gyda'r gwynt.
  • Gadael i'r plant ddod o hyd i'r ffordd yn rhywle maen nhw'n ei adnabod.
  • Gwneud nyth aderyn a cheisio dod o hyd i rywle i'w roi.
  • Dod o hyd i le cudd (a gwylio'r byd yn mynd heibio).
  • Dod o hyd i frigyn da a gweithio allan beth allwch chi ei wneud ag ef.
  • Chwilio am gynhwysion i wneud diod hud.

Cymerwch ran

Mae tymor newydd ar droed – beth am roi cynnig ar rai o’r syniadau hyn gyda dy deulu. I gael mwy o ysbrydoliaeth, edrycha ar y rhestr lawn o 365 o weithgareddau ar flog Lisa: Trails, bales & snails.

Yn ôl i’r holl erthyglau

Gwneud chwarae’r tu allan yn ystod y gaeaf yn hawdd

Erthygl nesaf
English