50 syniad chwarae ar gyfer y gwyliau

50 syniad chwarae ar gyfer y gwyliau

Faint o’r syniadau hyn allet ti eu cwblhau yn ystod gwyliau’r ysgol?

  1. Adeiladu cuddfan
  2. Adeiladu gwesty pryfetach
  3. Adeiladu tŵr allan o esgidiau
  4. Bowlio deg gyda hen boteli plastig
  5. Cael hwyl gyda sialc
  6. Cael ras ŵy a llwy
  7. Casglu cerrig a’u paentio
  8. Chwarae 20 cwestiwn/pwy ydw i?
  9. Chwarae cadeiriau cerddorol
  10. Chwarae charades/give us a clue
  11. Chwarae dal
  12. Chwarae delwau cerddorol
  13. Chwarae gemau clapio
  14. Chwarae I spy
  15. Chwarae ras berfa
  16. Chwarae rhoi cynffon ar yr asyn
  17. Chwarae sardines
  18. Chwarae ’sgots
  19. Chwarae ymladd dŵr
  20. Chwarae ysgol, caffi, swyddfa neu siop
  21. Chwilio am adar neu hela pryfed
  22. Creu a hedfan awyrennau papur
  23. Creu cwrs rhwystrau
  24. Creu ffilm
  25. Creu ‘ffôn’ tuniau a chortyn
  26. Creu offerynnau cerdd gyda hen sdwff
  27. Creu pasteiod mwd
  28. Creu pypedau cysgod
  29. Creu pypedau hosan a rhoi sioe ymlaen
  30. Creu slime
  31. Cynnal disgo yn y gegin
  32. Cynnal picnic tedi bêrs
  33. Dringo coeden
  34. Esgus bod yn anifeiliaid a chael parêd
  35. Floor is lava
  36. Gêm o guddio
  37. Gwersylla dan do neu yn yr ardd
  38. Gwisgo i fyny
  39. Gwneud ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardbord
  40. Hwyl yn sgipio
  41. Mynd ar helfa drysor
  42. Neidio mewn pyllau
  43. Paentio lluniau gyda olion bysedd a dwylo
  44. Paentio wynebau eich gilydd
  45. Pasio’r parsel
  46. Rhedeg ar ôl swigod
  47. Rhoi tro ar jyglo
  48. Rhoi sioe ddawns ymlaen
  49. Rolio lawr ochr bryn
  50. Syllu ar y sêr

 

Lawrlwytho 50 syniad chwarae ar gyfer y gwyliau

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer chwarae pan fyddi di’n brin o amser

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Manteision adeiladu cuddfan – ffordd wych o gael hwyl, beth bynnag fo’r tywydd!

Erthygl nesaf
English