50 syniad chwarae ar gyfer y gwyliau
Faint o’r syniadau hyn allet ti eu cwblhau yn ystod gwyliau’r ysgol?
- Adeiladu cuddfan
- Adeiladu gwesty pryfetach
- Adeiladu tŵr allan o esgidiau
- Bowlio deg gyda hen boteli plastig
- Cael hwyl gyda sialc
- Cael ras ŵy a llwy
- Casglu cerrig a’u paentio
- Chwarae 20 cwestiwn/pwy ydw i?
- Chwarae cadeiriau cerddorol
- Chwarae charades/give us a clue
- Chwarae dal
- Chwarae delwau cerddorol
- Chwarae gemau clapio
- Chwarae I spy
- Chwarae ras berfa
- Chwarae rhoi cynffon ar yr asyn
- Chwarae sardines
- Chwarae ’sgots
- Chwarae ymladd dŵr
- Chwarae ysgol, caffi, swyddfa neu siop
- Chwilio am adar neu hela pryfed
- Creu a hedfan awyrennau papur
- Creu cwrs rhwystrau
- Creu ffilm
- Creu ‘ffôn’ tuniau a chortyn
- Creu offerynnau cerdd gyda hen sdwff
- Creu pasteiod mwd
- Creu pypedau cysgod
- Creu pypedau hosan a rhoi sioe ymlaen
- Creu slime
- Cynnal disgo yn y gegin
- Cynnal picnic tedi bêrs
- Dringo coeden
- Esgus bod yn anifeiliaid a chael parêd
- Floor is lava
- Gêm o guddio
- Gwersylla dan do neu yn yr ardd
- Gwisgo i fyny
- Gwneud ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardbord
- Hwyl yn sgipio
- Mynd ar helfa drysor
- Neidio mewn pyllau
- Paentio lluniau gyda olion bysedd a dwylo
- Paentio wynebau eich gilydd
- Pasio’r parsel
- Rhedeg ar ôl swigod
- Rhoi tro ar jyglo
- Rhoi sioe ddawns ymlaen
- Rolio lawr ochr bryn
- Syllu ar y sêr