Beth am i ni fynd allan i chwarae?!

Mae chwarae tu allan yn dda i blant. Maent yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae... ond yn bennaf oll, mae plant yn cael hwyl pan maen nhw’n chwarae!

Pam bod chwarae yn yr awyr agored yn bwysig?

Mae chwarae yn yr awyr agored yn:

  • rhoi lle i blant redeg, dringo, rowlio, neidio, cuddio, a llosgi eu hegni
  • golygu y gall plant chwarae gyda phethau naturiol fel d?r, tywod, mwd, gwair, rhisgl a brigau
  • caniatáu plant i ddarganfod y byd naturiol, er enghraifft gweld pa greaduriaid ddaw allan mewn gwahanol dywydd
  • helpu plant i ddysgu am y tymhorau a’n tywydd hynod o amrywiol, trwy eu profi eu hunain
  • helpu plant i ddysgu sut i edrych ar eu hôl eu hunain – er enghraifft, sylweddoli pa mor llithrig yw rhew, a’r angen i yfed d?r a gwisgo het pan mae’n heulog
  • helpu i ddatblygu synhwyrau plentyn – eu golwg, clyw, synnwyr arogl, cyffyrddiad a blâs
  • achosi llai o straen ac yn llai diflas i oedolion os yw plant yn swnllyd y tu allan, yn hytrach nac yn y t?
  • hwyl!

Syniadau chwarae yn yr awyr agored 

Os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth ar dy blant ar beth i'w chwarae yn yr awyr agored, dyma ambell syniad:

  1. Creu cuddfan
  2. Chwarae sgots (hopscotch)
  3. Chwarae cuddio
  4. Cacen mwd
  5. Helfa pryfetach
  6. Adeiladu gwesty pryfetach
  7. Gwersylla yn yr ardd
  8. Creu g?yl gerddorol ar gyfer y teulu
  9. Helfa drysor
  10. Mae’r llawr yn lafa
  11. Tê parti yn yr awyr agored
  12. Cwrs rhwystrau.

Cymryd rhan

Beth mae dy blant di’n mwynhau chwarae yn yr awyr agored?

Ymuna â Haf Chwareus drwy rannu dy syniadau chwarae gyda ni – tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – FacebookInstagram a Twitter – a phaid ag anghofio defnyddio’r hashnod #HafChwareus.

Mae’n amser i fynd yn ôl i’r ysgol

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Canllaw chwarae adref

Erthygl nesaf
English