Croeso i'r Gwersyll Gwyllt
Mae Tîm Chwarae Blaenau Gwent wedi peilota’r prosiect Gwersylloedd Gwyllt i drosglwyddo cyfleoedd chwarae awyr agored ar gyfer plant ac arddegwyr. Mae’r Gwersylloedd Gwyllt ar gyfer plant sy’n derbyn gwasanaethau cymorth a rhai wnaeth brofi newidiadau sylweddol i’w bywydau’n ystod y pandemig COVID-19.
Roedd y tîm yn pryderu bod coronafeirws a’r cyfnodau clo wedi dwysau ofnau plant a theuluoedd ynghylch bod y tu allan, ofn baw ac afiechyd ac ofn dod i gysylltiad â phobl eraill. Waeth pa mor rhesymol y gallai hyn fod, mae’n rhaid ei gydbwyso yn erbyn y risg i les ac iechyd corfforol a meddyliol plant o fod y tu mewn ac ar wahân i’w ffrindiau am gyfnodau estynedig. Trwy annog a chefnogi plant i chwarae yn yr amgylchedd naturiol a gweithio gydag oedolion i egluro buddiannau chwarae ar gyfer iechyd a lles, dysg a gwytnwch plant, gallwn fabwysiadu agwedd gytbwys.
Mae’r tîm yn cefnogi dau grwp yr wythnos. Ar gychwyn pob gwersyll, mae’r plant a’r arddegwyr yn creu’r prif wersyll, yn ystyried sut i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel yn ystod y sesiwn ac yn cael cyfleoedd i chwarae’n rhydd. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw archwilio a chanfod sgiliau newydd gyda’r nod o ddatblygu profiad unigryw. Mae’r prosiect yn anelu i annog pob plentyn i ddysgu, tyfu a datblygu trwy’r amgylchedd, dal eu dychymyg ac ar yr un pryd wreiddio gwerthoedd dwfn am y byd naturiol y maent yn byw ynddo.
Ethos y tîm yw dilyn anghenion a diddordebau’r plant, ble bynnag y bo’n ymarferol a phosibl. Caiff gweithgareddau addas eu cynnig a’u cefnogi, er enghraifft:
- defnyddio’r amgylchedd naturiol ar gyfer adeiladu cuddfannau, helfeydd trychfilod, helfa drysor, naddu pren, paentio gyda mwd, a chelf a chrefft
- archwilio’r amgylchedd trwy chwarae’n rhydd
- coginio dros y tân.
Er mwyn ateb anghenion y plant a’r plant yn eu harddegau sy’n mynychu’r gwersylloedd, cedwir y grwpiau’n fychan. Mae hyn:
- yn annog y plant i greu perthnasau gyda’u cyfoedion
- yn hybu ymgysylltu gyda’r gweithgareddau
- yn cefnogi plant i ymdopi gyda’u teimladau a’u hemosiynau mewn amgylchedd diogel.
Ers lansio’r prosiect, mae’r tîm wedi derbyn 54 atgyfeiriad / cofrestriad trwy’r Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd neu hunan-atgyfeirio trwy gael mynediad i ddarpariaeth chwarae arall.
Yn dilyn y peilot llwyddiannus, mae Gwersylloedd Gwyllt wedi dod yn rhan o’r gwasanaeth craidd a drosglwyddir gan Dîm Chwarae Blaenau Gwent. Mae cynlluniau ar y gweill i lansio trydydd grwp ym mis Chwefror 2023 fydd yn trosglwyddo rhaglen 12-wythnos i gefnogi mwy o blant ac arddegwyr.
‘Mae gen i fwy o hyder a dwi’n hoffi bod allan yn lle bod ar fy nghyfrifiadur.’ (Bachgen wyth oed)
‘Rwy’n cael fy mwlian yn yr ysgol oherwydd fy mod i’n swil ond dwi wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae hyn yn fy ngwneud yn hapus.’ (Merch wyth oed)
‘Rwy’n hoffi bod y tu allan a dringo coed.’ (Bachgen pump oed)
‘Roeddwn i ofn tân ond nawr rwy’n gwybod fy mod yn gallu ei reoli.’ (Bachgen naw oed)