Sesiynau chwarae stryd wedi eu harwain gan rieni

Chwarae yn y gymuned

Sesiynau chwarae stryd wedi eu harwain gan rieni

Mae trigolion Heol Windsor, Y Fenni wedi symud eu ceir o’r stryd mewn cyfres o ddigwyddiadau i gau’r stryd, pryd y gwelwyd plant lleol yn chwarae ger eu cartrefi.

Yn seiliedig ar fodel Playing Out Bryste ac wedi ei ysbrydoli gan ffrind oedd wedi trefnu i gau strydoedd ar gyfer chwarae yn Worthing, aeth Chloe Charrington, sy’n fam leol, at Gyngor Sir Fynwy er mwyn ceisio sicrhau chwarae ar y stryd yn ei chymdogaeth.

Bellach mae trigolion Heol Windsor wedi cau eu stryd ar gyfer sesiynau chwarae ar y stryd ar ôl ysgol ac ar y penwythnos ar nifer o achlysuron. Mae’r pwyslais ar chwarae rhydd, di- strwythur ac fel arfer bydd y plant yn dod â’u teganau eu hunain allan – yn raffau sgipio, beiciau, sgwteri a sialc.

Mewn sesiwn chwarae allan yn ddiweddar gwelwyd plant ar eu sgwteri, yn seiclo, chwarae rygbi a phêl-droed ac yn gorchuddio’r ffordd â sialc. Treuliodd un plentyn y rhan fwyaf o’r ddwyawr yn creu patrwm mewn llinell droellog o un pen o’r heol i’r llall, tra bo’r plant eraill yn rhedeg neu’n seiclo ar ei hyd. Bu sialc mawr, trwchus yn llwyddiant ysgubol!!

Mae’r digwyddiadau hyn wedi eu harwain gan gymdogion ar gyfer cymdogion, a chaiff y digwyddiadau hyn ond eu hysbysebu yn y strydoedd cyfagos. Caiff y traffig trwodd ei atal, gyda stiwardiaid gwirfoddol ger pob lleoliad ble y mae’r ffordd wedi ei chau er mwyn ailgyfeirio traffig trwodd ac i hebrwng ceir trigolion i mewn ac allan yn ddiogel. Mae’r rhieni a gofalwyr yn gyfrifol am eu plant eu hunain.

Er mwyn cefnogi’r fenter, bydd Cyngor Sir Fynwy’n defnyddio Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 er mwyn caniatáu cau nifer o ffyrdd ar gyfer chwarae. Caiff yr agwedd yma tuag at Orchmynion Cau Strydoedd Dros Dro ei defnyddio’n llwyddiannus gan nifer o awdurdodau lleol mewn ardaloedd eraill o’r DU. Yn Y Fenni caiff cais ei gwblhau a’i gyflwyno ar gyfer pob achos o gau’r ffordd.

Er mwyn sicrhau ei fod yn digwydd, bydd Chloe’n darparu map lleol i’r cyngor yn nodi ble y byddai’r heol yn cael ei chau ac yn derbyn caniatâd a chefnogaeth yr holl drigolion lleol trwy fynd i guro ar bob drws gyda chymorth ei phlant. Bydd trigolion lleol yn helpu gyda’r gwaith o argraffu a dosbarthu taflenni ac arwyddion, ac mae cymydog wedi helpu i drefnu arwyddion swyddogol ‘Ffordd ar Gau’.

Dros y degawdau diwethaf tyfodd y gred gyffredinol bod ‘ffyrdd ar gyfer ceir’ ac mae’r syniad o strydoedd fel mannau chwarae wedi diflannu bron yn llwyr. Fel rhan o’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae, mae plant a phobl ifainc sy’n byw yng Nghymru, a’u rhieni, wedi dweud wrthym eu bod yn wynebu llawer o rwystrau i chwarae allan gyda’u ffrindiau (yn bennaf – ceir wedi eu parcio a chyflymder a niferoedd y ceir, ofn dieithriaid ac amgylcheddau ac agweddau anghroesawus).

Mae angen inni newid yr amgylchedd trwy ein cymunedau’n gyffredinol er mwyn creu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar; ac mae hyn yn galw am gefnogi newid agweddau a safbwyntiau. Gall cymdogaethau lleol cryfion leddfu ofnau rhieni am weld eu plant yn chwarae’r tu allan trwy ddarparu ymdeimlad o gymuned a diogelwch.

Mae’r sesiynau chwarae stryd yn rhoi lle a chaniatâd i blant chwarae ar y stryd, tra bod oedolion yn cael cyfle i gwrdd â, a dod i adnabod eu cymdogion yn well. Pan fyddwch yn adnabod eich cymdogion mae’n llawer rhwyddach i adael i’ch plant chwarae’r tu allan.

English