Chwarae yn y gymuned
Dod â rhannau rhydd i faes chwarae ysgol
Mark Sainsbury yn rhannu ei brofiad o gefnogi’r Playpod® cyntaf gan Scrapstore Plant Bryste i gael ei osod mewn ysgol gynradd yng Nghymru.
Dyma’r stori sy’n egluro sut cyrhaeddodd Scrapstore PlayPod® ardal chwarae yn Ysgol Gynradd Palmerston, yn y Barri. Fydd e ddim yn ennill Gwobr Pullitzer, nac yn rhoi’r byd gwaith chwarae ar dân, ond fe ddysgodd yr hen weithiwr chwarae yma sawl peth yn sgîl y profiad.
Gofynnodd Joanne Jones, Swyddog Datblygu Chwarae Bro Morgannwg, a fyddwn i’n hoffi bod yn fentor ar gyfer cynllun PlayPod® Scrapstore Plant Bryste. Bu Connor, gweithiwr chwarae arall o’r Fro, a minnau yn mynychu’r hyfforddiant mentora ym Mryste cyn ymweld â’r ysgol oedd yn edrych dros y gwaith cemegol anferth yn y Barri.
Gwastadedd eang, plaen o darmac oedd yr ardal chwarae, yn llygad y gwynt oedd yn chwipio ar draws Môr Hafren – nid y lle chwarae mwyaf deniadol, ond un yr oedd yr ysgol yn benderfynol o’i wella. Roedd y gwaith cemegol wedi rhoi cyfraniad hael i ddatblygu’r ardal chwarae ac felly gofynnwyd i Scrapstore Plant Bryste ddarparu’r Scrapstore PlayPod® cyntaf yng Nghymru.
Bu podiau chwarae yng Nghymru o’r blaen, a bu digon o gynwysyddion yn llawn sgrap sydd wedi cael llawer o wahanol enwau. Y gwahaniaeth yw bod Scrapstore Plant Bryste wedi datblygu cynllun a brofwyd yn fanwl, gyda phodiau o wahanol feintiau wedi’u llanw a’u cyflenwi â sgrap a ddewiswyd yn ofalus, y cyfan wedi’i gefnogi gan hyfforddiant a mentoriaid i’w helpu i gychwyn yn llwyddiannus.
Dyna oedd fy ngwaith i a Connor. Fe wnaethon ni ymuno â’r hyfforddiant oedd yn cael ei ddarparu i bawb oedd yn ymwneud â chwarae amser cinio yn yr ysgol. Y syndod cyntaf oedd faint o bobl oedd yno. Roeddwn i wedi disgwyl uchafswm o 10, ond oherwydd y nifer eithriadol o uchel o blant ag anghenion cefnogi, yr holl staff un i un, a hefyd y goruchwylwyr amser cinio, y cynorthwywyr addysgu ac eraill, roedd gan Dan, yr hyfforddwr, fwy na 20 i’w tywys drwy’r cwrs.
Yr ail syndod oedd faint o wrthwynebiad gafodd ei fynegi, a pha mor gryf ydoedd. Ar yr adeg gychwynnol hon roedd rhai pobl yn bendant yn gwrthwynebu risg. Y trydydd syndod oedd sut cafodd y dadleuon mwyaf llafar eu herio, yn ystod yr wythnosau nesaf, ac i ba raddau trôdd y gwrthwynebiad yn gefnogaeth gadarnhaol.
Y pedwerydd syndod oedd pa mor hwylus yr aeth yr wythnos gyntaf heibio, wedi i’r Scrapstore PlayPod® gael ei roi yn ei le. Roeddwn i wedi disgwyl i’r plant archwilio’r offer newydd yn egnïol, ac fe wnaethon nhw, ond nid pa mor hawdd fyddai hi i’r staff addasu, ymlacio a mwynhau’r broses. Yn naturiol, roedd heriau a pheth gwrthdaro, ond roedd yr hyfforddiant wedi darparu digon o enghreifftiau ‘beth petai…’ i’r staff fedru troi cefn ar chwibanau ac ymddygiad llym, ac roedd Connor a minnau yno i wylio a chefnogi, a gwelwyd bod hynny’n gymorth mawr.
Digwyddodd ein hymweliadau mentora yn llai a llai aml, wrth i’r staff ddod yn fwy cyfforddus gyda’r newidiadau i’w rolau ac i’r plant barhau i dynnu pob gronyn o chwarae allan o bob darn o sgrap.
Yn y dyfodol, bydd sgrap i ailgyflenwi’r Scrapstore PlayPod® yn dod o Gymru yn hytrach na chael ei fewnforio o Fryste. Mae Re-Create Scrapstore (Cymdeithas Gwasanaethau Chwarae Caerdydd a’r Fro) yng Nghaerdydd eisoes wedi cytuno i gefnogi’r prosiect.
Ysgol Gynradd Palmerston:
‘Mae ein PlayPod yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi cynyddu cyfleoedd chwarae’r plant yn aruthrol. Mae wedi gwella ansawdd chwarae’r plant, gyda llawer llai o anghytuno, a gwelir chwarae anturus, llawn dychymyg ar draws pob oed.’
Scrapstore PlayPod
Proses gyfannol yw’r Scrapstore PlayPod® sy’n gweithio gyda chymuned gyfan yr ysgol i newid yr amgylchedd chwarae dynol a ffisegol, gan weddnewid y chwarae yn ystod amser cinio’r ysgol, a galluogi’r canlynol:
- Plant hapusach
- Nifer sylweddol lai o ddigwyddiadau a damweiniau
- Plant yn dychwelyd i’r dosbarth yn barod i ddysgu
- Staff amser cinio wedi’u grymuso
- Ymatebion cadarnhaol gan rieni.