Sut i gefnogi chwarae dy blentyn yn ei arddegau

Am chwarae

Sut i gefnogi chwarae dy blentyn yn ei arddegau

’Dyw chwarae ddim ar gyfer plant iau’n unig – mae arddegwyr yn chwarae hefyd. Ond mae’n bosibl y bydd dy arddegwr yn ei alw’n rhywbeth arall, fel hongian o gwmpas. Mae chwarae, ymlacio, a chymdeithasu i gyd yn cyfrannu at sicrhau bod dy blentyn yn ei arddegau’n teimlo’n iach, yn hapus, ac yn abl i ymdopi gyda chyffro a thrafferthion bywyd.

Cyfnod o newid

Mae glasoed yn gyfnod o newid corfforol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae niwrowyddoniaeth yn dangos bod ymennydd arddegwyr yn mynd trwy gyfnod o newid dramatig a bod eu hymennydd yn wahanol i ymennydd oedolyn a phlentyn.

Mae gwahanol rannau’r ymennydd yn datblygu ar wahanol gyflymder. Mae’r rhannau sy’n ymwneud â datblygiad cymdeithasol ac emosiynol yn aeddfedu’n gyflymach na’r rhannau sy’n gyfrifol am gynllunio, trefnu a rheoli mympwyon. Felly, ar adeg pan fo ymennydd dy blentyn yn ei arddegau’n chwilio am risg, her a chynnwrf, tydi’r rhan o’r ymennydd sy’n helpu i’w reoli heb ddal i fyny eto!

Pwysigrwydd perthnasau

Mae arddegwyr eisiau mwy o ryddid ac annibyniaeth, felly bydd dy berthynas gyda nhw’n newid. Ond mae’r berthynas yma’n dal i fod yn bwysig iddyn nhw.

Risg a her

Mae’n naturiol i arddegwyr chwilio am rywfaint o her a risg, boed trwy weithgarwch corfforol neu brofiadau cymdeithasol. Fe fyddan nhw, yn naturiol, yn profi eu cyraeddiadau personol – a dy rai dithau hefyd, yn fwy na thebyg. Fel rhieni, rydym am eu cadw’n ddiogel ond mae’n bwysig hefyd caniatáu iddyn nhw dyfu’n bobl ifanc abl, annibynnol.

Siarad am gymryd risg

Ceisia gadw’r llinellau cyfathrebu’n agored rhyngot ti a dy blentyn yn ei arddegau. Gallwch drafod y mathau o weithgareddau a phrofiadau y gallent ddod ar eu traws, er enghraifft:

  • cwrdd â phobl newydd
  • mynd i barti yn nhŷ rhywun arall
  • eistedd o amgylch y tân
  • aros allan wedi iddi dywyllu
  • mynd mewn car gyda rhywun sydd newydd ddysgu gyrru
  • ysmygu.

Un ffordd syml o siarad am y math yma o weithgareddau arddegwyr yw creu rhestr gyda’ch gilydd a gosod y gweithgareddau mewn dosbarthiadau coch (risg uchel), melyn (rhywfaint o risg) a gwyrdd (dim risg), yn ôl lefel y risg posibl sy’n perthyn iddyn nhw.

Meddwl trwy bethau

Helpa dy blentyn yn ei arddegau i feddwl am sefyllfaoedd allai arwain at wneud camgymeriadau, fel hongian o gwmpas a chymdeithasu yn rhywle peryglus. Ceisia ymarfer ffyrdd iddyn nhw ddweud ‘na’, a meddwl am syniadau i gael eu hunain allan o sefyllfaoedd ble nad ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus.

Cymal dianc

Mae gan rai teuluoedd ‘allweddair’ (neu frawddeg) y gall eu plentyn yn eu harddegau ei defnyddio mewn neges testun neu alwad ffôn os ydyn nhw am i’w rhieni ddod i’w nôl. Mae hyn yn rhoi ffordd iddyn nhw ddatrys y sefyllfa heb unrhyw embaras.

Gwneud camgymeriadau

Bydd pawb yn gwneud camgymeriadau. Y peth pwysig yw dysgu oddi wrthyn nhw a chanfod ffyrdd i osgoi eu hail-adrodd. Gofynna gwestiynau i dy blentyn yn ei arddegau, fel:

  • ‘Beth ddigwyddodd?’ yn hytrach na ‘Beth wnest ti?’
  • ‘Sut ddigwyddodd hyn?’ yn hytrach na ‘Pwy oedd ar fai?’
  • ‘Beth yw’r canlyniadau?’ yn hytrach na ‘Beth wyt ti am ei wneud am y peth?’

Bydd hyn yn ei helpu i fyfyrio ar yr hyn ddigwyddodd heb deimlo eu bod yn cael eu beio.

Terfynau a ffiniau

Hyd yn oed oes byddan nhw’n dweud nad ydyn nhw eu hangen, mae arddegwyr yn dal i elwa o wybod y rheolau a’r ffiniau. Cofia eu cynnwys yn y broses o bennu terfynau a bydd yn barod i drafod y rhain.

Annog cymryd risgiau positif

Annog dy blentyn yn ei arddegau i roi tro ar weithgareddau sydd ag elfen o risg a her os roddir cyfle iddyn nhw yn yr ysgol neu mewn clybiau. Bydd pethau fel beicio mynydd, hwylio, heriau awyr agored, a gwersylla yn rhoi ymdeimlad positif o her a chymryd risg i arddegwyr.

Lles

Bydd ymdeimlad positif o les yn helpu dy blentyn yn ei arddegau i ymdopi â bywyd bob dydd. Bydd plentyn yn ei arddegau sydd ag ymdeimlad o les yn dysgu sut i ymdopi â’r anawsterau a’r siomedigaethau gaiff pawb ar ryw adeg o’u bywyd. Mae rhai o’r ffyrdd y bydd plant yn eu harddegau’n datblygu ymdeimlad o les yn cynnwys:

  • Cael hwyl
  • Bod yn rhan o grŵp
  • Ymarfer corff yn rheolaidd
  • Dod o hyd i bethau y maen nhw’n gallu eu gwneud yn dda.

Mae cwsg yn bwysig

Mae patrymau cwsg arddegwyr yn dueddol o gael eu tarfu ond maen nhw angen digonedd o gwsg – tua naw awr y nos. Mae rhai pethau fydd yn eu helpu i gysgu’n dda’n cynnwys:

  • Treulio amser y tu allan
  • Ymarfer corff
  • Cael trefn noswylio dawel
  • Diffodd y Wi-Fi
  • Diffodd a chadw dyfeisiau electronig.
English