Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Am chwarae

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yw'r diwrnod byd-eang ar gyfer dathlu hawl pob plentyn i chwarae, ni waeth pwy ydyn nhw na ble maen nhw'n byw. Mae'n digwydd yn flynyddol ar 11 Mehefin.

Mabwysiadwyd Diwrnod Rhyngwladol Chwarae gan y Cenhedloedd Unedig yn 2024. Mae'n ddiwrnod i gydnabod pwysigrwydd chwarae plant ac yn gyfle i gefnogi plant trwy sicrhau bod ganddyn nhw'r amser, y lle a'r rhyddid i chwarae. Yn ogystal â bod yn ddiwrnod sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â chwarae, mae hefyd yn gyfle i feddwl am yr hyn sy'n atal plant yn ein cymunedau rhag gallu chwarae, a sut y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gall pob plentyn fwynhau ei hawl i chwarae, bob dydd.

Thema Diwrnod Rhyngwladol Chwarae eleni yw Dewis Chwarae – Bob Dydd!

Mae Plentyndod Chwareus yn annog pob teulu i dreulio amser yn chwarae a chael hwyl.

Dyma ein hawgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae!

    1. Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn digwydd ar ddiwrnod ysgol, ond mae yna ddigon o ffyrdd y gallet ti gynnwys chwarae yn niwrnod dy blentyn. Mae manteisio ar adegau chwareus, chwarae gemau syml a gwneud tasgau bob dydd yn chwareus yn rhoi cyfleoedd gwych i gael hwyl. Am ysbrydoliaeth, darllena ein herthygl blog, Awgrymiadau anhygoel ar gyfer chwarae pan fyddi di'n brin o amser.
    2. Nid yw gwneud amser ar gyfer chwarae yn golygu bod angen cynllun o weithgareddau arnat ti. Efallai cytuno ar rywfaint o reolau cyffredinol ac yna cymryd cam yn ôl a goruchwylio o bell. Bydd plant yn fwy tebygol o ddewis sut maen nhw'n chwarae a mwynhau profi pethau drostynt eu hunain os rhoddir y rhyddid a'r anogaeth iddyn nhw wneud hynny.
    3. Rho ddigonedd o bethau i blant chwarae â nhw. Casgla detholiad o amgylch y tŷ, fel hen ffabrig a dillad, potiau a sosbenni, tiwbiau a bocsys cardbord. Bydd plant yn greadigol iawn o gael llonydd i chwarae gyda’r pethau hyn.
    4. Mae plant yn rhyfeddu at natur, felly meddylia am bethau sy’n caniatáu i blant archwilio’r pedair elfen yn eu chwarae:
      • Daear – teisennau mwd, tywod, clai neu dyllu
      • Awyr – barcutiaid, swigod, balwnau neu faneri
      • Tân – addurno canhwyllau, rhostio malws melys neu goginio dros dân gwersyll
      • Dŵr – pibelli dŵr, bwcedi, sbwnjis neu ganiau dŵr.
    5. Gwna yn siŵr bod dy blentyn yn barod am ddiwrnod o chwarae. Anoga nhw i wisgo hen ddillad ar gyfer baeddu a gwlychu – a bydda’n barod beth bynnag fo’r tywydd.
    6. Os rhoddi di ddigon o amser, lle a rhyddid i blant, byddant yn chwarae a bod yn greadigol. Gall chwarae ddigwydd gartref neu yn yr awyr agored yn eich gardd neu'ch cymdogaeth leol.
    7. Mwynhewch! Dylai treulio’r diwrnod yn chwarae fod yn hwyl i blant a rhieni. Cama yn ôl ac arsylwi’r profiadau anhygoel gaiff plant wrth chwarae – fe’i wela nhw’n dysgu, yn trin a thrafod ac yn mwynhau eu hunain.
    8. Sgwrsia am Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae gyda dy blentyn. Gofynna iddyn nhw beth oedd eu barn am y diwrnod. Os gwnaethon nhw ei fwynhau, meddylia sut allwch chi chwarae mwy bob dydd.
    9. Ymuna â'r mudiad byd-eang i gefnogi hawl plant i chwarae trwy rannu dy brofiadau chwarae, dathliadau a sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys yr hashnodau #DiwrnodRhyngwladolChwarae #DewisChwarae
English