Chwarae yn y gymuned
Ysbrydoliaeth
Ar draws Cymru, mae llu o enghreifftiau gwych o brosiectau a mannau chwarae. Maent yn cefnogi chwarae mewn amrywiol ffyrdd, gan ymateb i anghenion plant, arddegwyr a’r gymuned. Mae’n bosib nad yw rhai o’r rhain yn parhau i ddigwydd ond efallai y bydd yr enghreifftiau hyn yn dy ysbrydoli i roi tro ar rywbeth tebyg yn dy gymuned.
Gall rhannu enghreifftiau llwyddiannus dy helpu i ddadlau dy achos dros yr hyn hoffet ei wneud. Efallai y gallet ymweld â rhai o’r enghreifftiau hyn i ddysgu mwy a mynd â’r plant yno gyda thi i weld beth maen nhw’n ei feddwl.
Mae’r enghreifftiau hyn o bob math o sefydliadau a grwpiau yng Nghymru, yn cynnwys rhieni, cymdeithasau chwarae, cynghorau, ysgolion, cefn gwlad a sefydliadau diwylliannol. Maen nhw’n arddangos dulliau gwahanol, wedi eu teilwra i’r lleoliad, y plant neu angen penodol yn y gymuned.
Ysbrydoliaeth
Dod â rhannau rhydd i faes chwarae ysgol
Ysbrydoliaeth
Parc Dros Dro Caerdydd Plentyn-Gyfeillgar
Ysbrydoliaeth
Danfoniadau bwyd yn ystod gwyliau’r haf
Ysbrydoliaeth
Man chwarae cymunedol diogel
Ysbrydoliaeth
Chwarae amser cinio yn Ysgol Tŷ Ffynnon
Ysbrydoliaeth
Ardal chwarae greadigol mewn amgueddfa
Ysbrydoliaeth
Sesiynau chwarae awyr agored ar gyfer plant ifanc
Ysbrydoliaeth
Sesiynau chwarae allgymorth yng Nghonwy
Ysbrydoliaeth
Sesiynau chwarae stryd wedi eu harwain gan rieni
Ysbrydoliaeth
Ardal chwarae mewn coetir cyhoeddus