Chwarae yn y gymuned
‘Arafwch yrrwyr i ni gael chwarae’ – mae plant yn gwneud arwyddion ffyrdd i rybuddio gyrwyr
Mae pedwar o fechgyn ifanc o Fethesda yng Ngwynedd wedi mynd ati i greu arwyddion ffyrdd i annog gyrrwyr i beidio goryrru ar hyd eu stryd, fel ei bod yn ddiogel iddyn nhw chwarae allan.
Ar ôl gweld yr arwyddion lliwgar ar ffordd sydd a therfyn cyflymder o 20mya, ger yr ysgol uwchradd yn y dref, fe aethon ni ati i holi Efan, Gruff, Robin ac Elgan am eu hymdrech i wneud eu cymdogaeth yn lle cyfeillgar a diogel i chwarae.
Dywedodd Robin, sy’n 11 oed:
‘Ar y funud dydi’n stryd ni ddim yn lle braf i chwarae achos mae’r ceir yn gyrru. Felly, da ni wedi gorfod neud seins i ddeud wrthyn nhw i slofi i lawr.’
Mae’r bechgyn, sy’n gymdogion, yn mwynhau chwarae ar eu beics, sgwteri a gemau fel ‘kerby’ a chriced, ar y ffordd tu allan i’w cartrefi. Ond gan fod nifer o geir yn gwibio heibio nid yw’n bosib iddynt wneud hynny. Er mwyn datrys y broblem cafodd Gruff sy’n wyth oed, ac Efan sy’n naw oed, y syniad o osod arwyddion lliwgar ar ochr y ffordd i ddenu sylw gyrrwyr.
Gruff sy’n sôn am y gwaith creu:
‘Natho ni neud y seins wedyn mynd ati’n brysur i osod y llythrennau yn fawr a’u peintio nhw. Wedyn fuon ni’n eu gosod nw yn y gwair i pobl gael gwybod i slofi i lawr achos bo ni isho chwarae yma.’
Wrth sôn am lwyddiant yr arwyddion, dywedodd Efan:
‘Da ni’n hapus bod y seins yn gweithio. Da ni’n rili hapus am bo ni’n medru chwarae rwan.’
Ychwanegodd Gruff:
‘Mae cael lonydd 20mya yn syniad da achos mae ‘na lot o blant yn hapus efo fo, ond mae ceir yn dal i oryrru yma.’
Mae’r arwyddion hefyd wedi denu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol gyda thrigolion yr ardal yn canmol y plant am eu hymdrech:
‘Da iawn hogiau – mae angen arwyddion lliwgar fel hyn i dynnu sylw’ ac ‘Arddechog, rydym angen mwy o arwyddion fel hyn.’
Gyda’r gweddill yn cytuno, neges Elgan, sy’n ddeuddeg oed, i yrrwyr yr ardal yw:
‘Slofwch i lawr. Da ni’n chwarae, newch chi plîs slofi lawr.’
Daeth y gair olaf gan Robin:
‘Stopiwch yrru’n rhy gyflym achos swni’n lecio byw chydig bach hirach – fyswn i ddim yn lecio bod fatha crempog! Ella os fysa’r cownsil yn dod a rhoi mwy o arwyddion mawr a speed bumps fysen ni ddim yn gorfod adeiladu seins ein hunain – fysa ni’n cael chwarae.’