Prosiect aros a chwarae ym Merthyr Tudful

Prosiect aros a chwarae ym Merthyr Tudful

Fel y pwysleisir mewn cyfarwyddyd ar gyfer rhaglen Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru, mae tiroedd ysgol yn aml yn cynrychioli’r gofod awyr agored unigol mwyaf mewn llawer o gymunedau.

Mae’n nodi bod gan agor tiroedd ysgol ar gyfer chwarae rôl sylweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r angen i sicrhau y gall mwy o blant gael mynediad i chwarae’r tu allan. Mae’n cydnabod i lawer o gymunedau, mai’r man gorau ar gyfer chwarae yw tiroedd yr ysgol, ac y byddai mwy o fynediad iddynt y tu allan i oriau ysgol yn cefnogi plant a theuluoedd lleol.

Fel rhan o’i Gynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae, dynododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yr angen i ysgolion ystyried agor eu tiroedd ar gyfer chwarae ar ôl ysgol. Dyrannwyd cyllid o’r Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan ar gyfer storfeydd ac offer. Cynorthwyodd y Rheolwr Ysgolion Bro i ddynodi ysgolion yn y sir i gymryd rhan mewn prosiect peilot ddarparodd gyfleoedd i blant a theuluoedd aros a chwarae ar dir yr ysgol.

Cynhaliwyd y prosiect peilot am un diwrnod yr wythnos am chwe wythnos mewn pedair ysgol. I gefnogi’r prosiect peilot, mynychodd Swyddogion Tîm yr Ysgolion Bro sesiynau cynnar yn ysgolion cynradd Pantysgallog, St. Aloysius a Goetre. Parhaodd yr ysgolion i staffio’r sesiynau wedi i’r peilot orffen gyda swyddogion cyswllt â theuluoedd, cynorthwywyr cymorth dysgu, ac athrawon y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd Lisa Bruford, Rheolwr Ysgolion Bro Merthyr:

‘Bu’r Prosiect peilot aros a chwarae yn Ysgol Gynradd Pantysgallog yn llwyddiant ysgubol gyda 50-90 o blant ac 20-40 o oedolion yn mynychu pob sesiwn. Fe wnaeth y plant fwynhau chwarae mewn lleoliad diogel a chymryd rhan lawn yn y gweithgareddau gafodd eu harwain gan y plant. Defnyddiwyd adnoddau y gellir eu prynu am gost isel iawn a dywedodd y rhieni nad oedden nhw wedi meddwl am ddefnyddio adnoddau sydd ganddynt gartref i’w plant chwarae. Roedd eitemau fel tarpolin, cynfasau gwely, pegiau a sialc yn rhai o’r adnoddau y mwynhaodd y plant chwarae gyda nhw.’

Roedd yr adborth oddi wrth y rhieni a gofalwyr fynychodd y sesiynau’n bositif hefyd:

‘Mae’r plant yn gyffrous i ddod bob wythnos.’ ‘Mae’n dda ar gyfer creu cysylltiad gyda chyfoedion.’ ‘Eisiau iddo ddal ati.’

Dywedodd un tad:

‘Dyma’r tro cyntaf imi weld fy mhlentyn yn chwarae gydag eraill ac yn cymryd tro, mae’n hyfryd ei weld.’

Yn ogystal, cynhaliodd Jennifer Evans, Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd, Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen, sesiynau aros a chwarae. Meddai:

‘Mae’r sesiynau hyn wedi rhoi cyfle i mi ymgysylltu gyda rhieni a gwarcheidwaid, sydd wedi helpu i greu perthnasau rhwng yr ysgol a’n teuluoedd. Rydym yn edrych ymlaen at ailgychwyn y sesiynau yn Ynysowen a Choed y Dderwen ym mis Medi.’

Anelodd y peilot aros a chwarae i arddangos y gallai mannau chwarae ysgolion gael eu defnyddio ar gyfer bywyd cymunedol ehangach. Mae canfyddiadau allweddol o’r peilot yn cynnwys:

  • Roedd yr ysgolion wnaeth gyfranogi’n gefnogol, ond fe wnaethon nhw elwa o’r gefnogaeth y gallai’r staff ei gynnig ar y cychwyn.
  • Roedd rhieni’n gwerthfawrogi cael amser, lle a chaniatâd i gefnogi chwarae eu plant.
  • Roedd y rhieni hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio anffurfiol gyda chyfoedion a gweithwyr proffesiynol cefnogol.
English