‘Yr ardd’ Prosiect Amgylchedd CAMHS

‘Yr ardd’ Prosiect Amgylchedd CAMHS

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn cefnogi plant o’u geni i 18 oed sy’n profi iechyd meddwl gwael neu deimladau neu brofiadau anodd.

Mae CAMHS yn cael ei staffio gan dimau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys ymarferwyr CAMHS, nyrsys, seiciatryddion plant, seicolegwyr clinigol, a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant.

Rai blynyddoedd yn ôl, roedd person ifanc oedd yn defnyddio CAMHS yng Nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam eisiau edrych ar amgylchedd cyflawn CAMHS – popeth o ystafelloedd y clinig i’r wefan. Gwahoddodd y Pennaeth Nyrsio y person ifanc i ddweud mwy wrthi a’i hannog i holi beth oedd pobl eraill yn feddwl fyddai’n helpu i wella’r gwasanaeth ar gyfer plant oedd yn mynychu apwyntiadau yn y Ganolfan Iechyd Plant.

Gweithiodd y person ifanc, oedd hefyd yn aelod o Senedd yr Ifanc – Senedd Ieuenctid Wrecsam, gyda chyfoedion i gynnal arolwg o tua 950 o bobl rhwng 10 a 25 oed sy’n byw yn Wrecsam. Roedd tua hanner yr ymatebwyr wedi mynychu’r Ganolfan Iechyd Plant ar ryw adeg yn ystod eu hoes.

Roedd adborth o’r arolwg yn cynnwys syniadau ar gyfer gwelliannau i ystafelloedd y clinig, gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer plant a’r ardal awyr agored. Dynododd canlyniadau’r arolwg bod yr ardal awyr agored yn cael ei gwerthfawrogi ond ei bod angen sylw er mwyn bod yn fwy cyfeillgar i blant.

Bellach mae CAMHS a Senedd yr Ifanc yn cydweithredu er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei arwain gan ieuenctid a bod chwarae’n cael ei ystyried trwy gydol y gwelliannau amgylcheddol. Mae nifer o bartneriaid, fel Tîm Cymorth Ieuenctid a Chwarae’r cyngor, Coleg Cambria a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd plant a’r tîm ystadau i gyd-gynhyrchu gofod awyr agored sy’n cynnal ystod amrywiol o fathau chwarae ac sy’n cynnig lle i archwilio ac ymlacio ynddo. Bydd yr ardd, sydd i fod i agor ym mis Ebrill 2024, yn cynnwys gofod ar gyfer y blynyddoedd cynnar, llecynnau tawel, llochesi a chist chwarae gyda rhannau rhydd i gefnogi chwarae a chreadigrwydd.

Dywedodd Jane Berry, Pennaeth Profiad y Claf CAMHS:

‘Mae cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu’n cymryd amser i sicrhau bod safbwyntiau ac awgrymiadau plant yn derbyn gwrandawiad fel rhan o wella’r ardd chwarae. Roedd ymweld â sesiynau gwaith chwarae gyda thîm chwarae’r cyngor yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig iawn. Fe wnaeth gweld y plant yn arwain eu chwarae eu hunain ein hatgoffa pa mor bwysig yw chwarae i blant.’

Meddai Marilyn Wells, Pennaeth Nyrsio CAMHS:

‘Mae chwarae’n rhan bwysig eisoes o asesu yn y Ganolfan Iechyd Plant. Mae gennym rôl hefyd wrth sicrhau bod gan y plant amser i chwarae tra ar y safle fel rhan o’u gwellhad. Mae ein cleifion ni’n blant yn gyntaf, ac mae gan bob un ohonyn nhw hawl i chwarae. Mae’n bwysig darparu ystod eang o amgylcheddau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn mwyafu’r cyfle i chwarae gyda’n plant sydd, yn ei dro, yn helpu gydag ymgysylltu.’

English