



Syniadau chwarae
Mae’r adran hon yn llawn o syniadau y galli eu defnyddio i ddechrau chwarae. Cei hyd i syniadau ar gyfer chwarae adref neu’r tu allan, gyda dy blentyn dy hun neu gyda grŵp o blant.
Mae’r holl syniadau yma’n rhad. Maen nhw ond yn defnyddio pethau sy’n hawdd cael hyd iddyn nhw yn y tŷ neu’r tu allan – fydd dim angen iti brynu eitemau penodol.
Yn ogystal â llawer o syniadau, cei hefyd hyd i nifer o awgrymiadau yn yr adran hon. Maen nhw’n awgrymu sut – a pham – i gefnogi gwahanol fathau o chwarae, fel chwarae adref, chwarae yn y tywyllwch neu chwarae mewn gwahanol dywydd.


Y diweddaraf
Archwilia'r diweddaraf gan Plentyndod Chwareus


Ein cennad
Ein cennad I helpu oedolion i roi plentyndod hapus, iach i blant drwy chwarae. Bob dydd.
Dysgu mwy