Teithiau cerdded chwareus

Teithiau cerdded chwareus

Bydd chwarae’n aml yn digwydd heb fawr ddim cynllunio ond weithiau mae’n ddefnyddiol bod ag ambell awgrym yn barod – fe fyddwn ni i gyd yn rhedeg allan o syniadau weithiau.

Mae pob plentyn yn elwa o gael cyfle i gael chwarae y tu allan. Does dim rhaid gwario arian ar weithgareddau drud na theithio milltiroedd i faes chwarae penodol. Gall pawb ddarparu cyfleoedd rhad yn lleol.

Gallwn sicrhau bod pob diwrnod yn antur. Rydym wedi llunio detholiad o deithiau cerdded ar themâu penodol i dy helpu di a dy deulu i fynd allan i archwilio eich ardal leol, gan gynnwys taith gofod, taith y creaduriaid bach a thaith môr-ladron.

Lawrlwytho Teithiau cerdded chwareus

Mae’r teithiau cerdded hyn wedi cael eu haddasu o enghreifftiau gan Dîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Boncyrs am concyrs

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Teithiau cerdded chwareus

Erthygl nesaf
English