Risg mewn chwarae – posibiliadau a chyfleoedd
Tim Gill, ynghynghorydd ac ymchwilydd plentyndod annibynnol, sy’n rhannu ei sylwadau ar bwysigrwydd rhoi rhyddid i blant gymryd risgiau a dysgu oddi wrth eu camgymeriadau.
Mae plant yn awchu am fymryn o ryddid. Mae ganddyn nhw ysfa gref i ddod i adnabod y bobl, y lleoedd a’r pethau o’u hamgylch. I weithio pethau allan drostynt eu hunain, i ddysgu sgiliau newydd, ac i gynyddu eu hunanhyder a’u hymdeimlad o’r hyn y gallan nhw ei wneud. A bydd llawer o’r gweithio allan, y dysg a’r cynyddu hyder yma, yn digwydd pan fydd plant yn chwarae, yn archwilio, arbrofi a phrofi eu hunain.
Mae’r ‘ymdrech i feistroli’ yma’n ysfa ddysgu naturiol, hynod o bwerus. Yn ogystal, mae yno o enedigaeth plentyn, a gallwn ei gweld trwy gydol plentyndod. Edrychwch ar blentyn bach yn dysgu cerdded, yn ceisio drosodd a throsodd i feistroli’r grefft o roi un droed o flaen y llall.
Rydym yn gwybod gwerth rhoi rhywfaint o ryddid i blant. Ond rydym yn poeni am yr hyn allai fynd o le - a’r hyn y bydd pobl eraill yn ei feddwl.
Taro cydbwysedd rhwng rhyddid a diogelwch
’Does dim gwadu bod cael y balans rhwng rhyddid a diogelwch yn gywir yn anoddach bellach. Mae rhai rhieni’n pryderu gymaint y bydd pethau’n mynd o le - a chael eu beirniadu a’u hystyried yn ddiffygiol gan eu cyfoedion - fel eu bod yn gorwneud pethau ac yn gor-warchod eu plant.
Y broblem yw, y gall gwneud pethau’n rhy ddiogel amddifadu plant o’r union brofiadau fydd yn eu helpu orau i ddysgu sut i gadw eu hunain yn iach a diogel. Wrth i nifer cynyddol o blant a phlant yn eu harddegau ymgodymu â phroblemau emosiynol a chymdeithasol, mae’n bwysicach fyth inni gael y cydbwysedd yma’n gywir.
Yn y pen draw, yr unig ffordd y bydd plant yn tyfu i fod yn wydn - i fod yn barod am yr heriau bob dydd y bydd bywyd, yn anorfod, yn eu taflu atyn nhw - yw trwy gael rhyddid i ddysgu o’u hymdrechion eu hunain, a’u camgymeriadau eu hunain.
Rydw i wedi bod yn dadlau dros agwedd gytbwys tuag at risg mewn plentyndod ers dros 20 mlynedd. Ac o ’mhrofiad i, mae cyfran fawr o rieni – y mwyafrif mud hyd yn oed – yn deall hyn.
Mabwysiadu agwedd gytbwys tuag at risg
Mae’n si?r bod pob rhiant eisiau i’w plant fod yn bobl hyderus, abl, cyfrifol a gwydn. Ac mae’r mwyafrif yn sylweddoli bod hyn yn golygu datod llinynnau’r ffedog ac, yn raddol, ganiatáu rhywfaint o ryddid, antur ac - ie - risg i mewn i’w bywydau. Sut arall allwn ni egluro’r cynnydd enfawr mewn addysg Ysgolion Coedwig a rhaglenni gofal plant, ble mae hyd yn oed y plant bach bach yn treulio oriau bob wythnos yn archwilio ac yn chwarae yn y coed?
Ond yn anffodus mae barn y mwyafrif yma’n cael ei fygu fwyfwy gan leisiau’r gorbryderus. Yn enwedig mewn diwylliant llawn cysylltiadau digidol, sydd byth yn cael eu diffodd, ble mae ofn a gorbryder yn mygu pob emosiwn arall, sy’n golygu ein bod yn ei chael yn anodd cadw ymdeimlad o gydbwysedd a chymesuredd.
’Dyw hyn yn ddim byd newydd i’r mwyafrif o rieni. Yr her i ni yw sut i roi’r syniadau hyn ar waith.
Rhoi syniadau ar waith
Y cam cyntaf ar y ffordd i ddoethineb yw ail-fframio’r syniad o risg. Gallwn bendroni byth bythoedd am y sefyllfaoedd gwaethaf un, ynghylch yr hyn allai fynd o le os bydd ein plentyn yn dringo coeden neu’n cerdded i’r ysgol ar ei ben ei hun am y tro cyntaf. Ond nid dyna’r man cychwyn cywir.
Mewn gwirionedd, mae risg yn golygu gweld y posibiliadau a bachu ar y cyfleoedd. Gofynnwch i unrhyw entrepreneur, anturiwr, artist, perfformiwr neu seren chwaraeon llwyddiannus.
Felly, mae angen inni ddechrau trwy feddwl beth allai fynd yn iawn. Meddwl pa mor dda y bydd dy blentyn yn teimlo unwaith iddyn nhw lwyddo. A’r hyn y bydd dy blentyn yn ei ddysgu, am eu hunain a’u doniau. A hefyd, hyd yn oed os byddan nhw’n wynebu rhywfaint o heriau ac yn gwneud ambell i gamgymeriad, maen nhw’n si?r o ddysgu gwersi gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
I droi at yr ofn o gael dy feirniadu, un cam defnyddiol yw gofyn i rieni sy’n meddwl yr un fath â ti am gefnogaeth ac undod, ac i wneud penderfyniad cwbl ymwybodol i dynnu allan o sgyrsiau gyda’r bobl hynny sydd ddim yn adlewyrchu neu barchu dy werthoedd a dy safbwyntiau. Oes wir angen iti ddal ati i ymwneud â’r negeseuon Facebook hynny sy’n cyfeirio at y ddamwain ofnadwy yna ym Mlebynnag sy’n *profi* na ddylet ti fyth adael dy blentyn o dy olwg?
Gall taro golwg ar yr ystadegau helpu hefyd. Wyddost ti fod mwy o lawer o blant yn marw wedi i ddodrefn gwympo arnyn nhw yn eu cartrefi eu hunain nac sy’n marw o ganlyniad i ddamwain ar faes chwarae?
Rai blynyddoedd yn ôl fe ddywedodd pennaeth ysgol feithrin, sy’n frwd iawn dros chwarae awyr agored, wrtha’ i sut y bydd hi’n dadlau ei hachos gyda rhieni pryderus dros adael i’w rhai bach brofi rhywfaint o ryddid. Mae’n syml, meddai: rydyn ni yn y busnes o helpu ein plant i dyfu i fod yn bobl abl, gyfrifol. Pobl all lywio ei ffordd trwy’r byd yn llawn hyder. Yna mae’n gofyn, pryd ydych chi am i’r broses yma ddechrau? Heddiw? Pan fyddan nhw’n mynd i’r ysgol fawr? Mynd i barti? Cerdded at yr allor? Oherwydd, tydi hi fyth yn rhy fuan i ddysgu sut deimlad yw sefyll ar eich traed eich hun.
Ymweld â gwefan Rethinking Childhood Tim Gill.