Diwrnod Chwarae – a chwarae bob dydd

Fel tad, taid, a bellach ar fin dod yn hen-daid, mae chwarae plant wedi bod yn un o fy mhrif ddiddordebau yn ogystal ag yn yrfa ers dros 40 mlynedd. Un atgof penodol sydd gen i yw o ddiwrnod yn 1986 pan wnaeth llond dwrn ohonom alw cyfarfod ymgyrch chwarae plant - a wnaeth neb droi fyny.

Fe benderfynom ni, fel byddwch chi, fynd lawr i’r dafarn i foddi ein gofidiau a cheisio meddwl beth i’w wneud nesaf. Rywsut, ac allwn ni ddim cofio sut yn union, fe feddylion ni am y syniad o gael diwrnod ar gyfer chwarae.

Roedd hi’n wahanol fyd bryd hynny, ond roedd ambell beth yn ddigon tebyg i heddiw yn 2019:

  • blynyddoedd o gynni a thoriadau llym i ariannu ar gyfer gwasanaethau lleol
  • cynnydd mawr mewn traffig ar ffyrdd wnaeth orfodi plant i gilio oddi wrth chwarae stryd traddodiadol
  • teuluoedd cyffredin yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd; colli rhyddid plant i chwarae.

Roedd rhaid inni wneud yn si?r bod Diwrnod Chwarae’n rhywbeth y gallai unrhyw un, yn unrhyw le fod yn rhan ohono a hynny am ddim neu fawr ddim cost. Fe benderfynom y dylai fod yn ddathliad o chwarae plant yn hytrach na’n ymgyrch brotest, er mwyn cael pobl a mudiadau o bob gogwydd gwleidyddol i’w gefnogi.

Roedd y neges yn syml: ‘Dathlwch yr hyn fyddwch chi’n ei wneud, ble rydych chi, gyda’r hyn sydd gennych chi a’i alw’n Ddiwrnod Chwarae!’

O ddim ond cwpwl o ddigwyddiadau yn 1987, tyfodd Diwrnod Chwarae i tua dwsin yn Llundain erbyn 1989, aeth yn genedlaethol yn 1991 a bellach dyma’r dathliad mwyaf o chwarae plant yn Ewrop. Mae dathliadau blynyddol Diwrnod Chwarae’n amrywio o bicnics tedi bêrs teuluol i ddigwyddiadau anferth ar gyfer miloedd o bobl mewn parciau, ar Ddydd Mercher cyntaf mis Awst.

Ond mae Diwrnod Chwarae yn ymwneud â mwy na dim ond un diwrnod. Mae’n ymwneud â chwarae bob dydd ac ym mhobman y mae plant yn byw. Fel y dywedodd un rhiant, ‘Mae wedi creu ymdeimlad gwirioneddol braf mewn ardal sydd â llawer o amddifadedd ac sydd erioed wedi cael un rhywbeth fel hyn o fewn cof’.

Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu’n rhywbeth y bydd y cyfryngau’n talu sylw iddo oherwydd ei fod yn stori leol iawn, yn ogystal ag yn un genedlaethol. Yn ogystal, mae dull Diwrnod Chwarae o weld pobl yn gwneud i bethau ddigwydd drostyn nhw eu hunain, tra’n rhan o ymgyrch genedlaethol, wedi bod yn gatalydd ar gyfer gweithredu lleol i sicrhau newidiadau parhaol trwy gydol y flwyddyn, er enghraifft helpu i ysbrydoli’r mudiad chwarae stryd Playing Outgaiff ei arwain gan rieni.

Rydw i’n falch iawn mod i’n un o sylfaenwyr Diwrnod Chwarae, ac wrth fy modd ei fod yn dal i fynd o nerth i nerth wedi 32 o flynyddoedd. Hoffwn ddiolch i’r miloedd o bobl sydd wedi trefnu Diwrnodau Chwarae o bob lliw a llun ar gyfer miliynau o blant dros y blynyddoedd. Ac fe fydda i’n mynychu Diwrnod Chwarae 2019 hynod o bwysig yng ngardd gefn yr wyrion. Neu pwy a ?yr, efallai gyda’u ffrindiau a’u cymdogion allan ar y stryd? Wyddoch chi fyth gyda Diwrnod Chwarae!

Caiff diwrnod chwarae ei gydlynu gan Play England, Chwarae Cymru, Play Scotland a PlayBoard Northern Ireland sy’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar sut i drefnu eich Diwrnod Chwaraeeich hun neu fod yn rhan o ddigwyddiad lleol.

Ysgrifennwyd gan Mick Conway, cyd-sylfaenydd Diwrnod Chwarae ac ymgynghorydd gwaith chwarae

 

Diwrnod Chwarae 2019

Dydd Mercher 7 Awst

Mae'r Diwrnod chwarae yn ddathliad blynyddol yn y DU o hawl plant i chwarae, a gaiff ei gynnal bob blwyddyn ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst.

Mae Diwrnod Chwarae yn gyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae plant a'r angen am ddarpariaeth chwarae o safon, bob dydd o'r flwyddyn ym mhob cwr o Gymru. 

I ddod o hyd i ddigwyddiadau yn dy ardal ymwela â gwefan Diwrnod Chwarae – mae’n cynnwys lot o gynghorion a syniadau hefyd os y byddi’n penderfynu trefnu dy ddathliad dy hun. 

 

 

Dewch allan i chwarae!

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Risg mewn chwarae – posibiliadau a chyfleoedd

Erthygl nesaf
English