“Dwi’n bôôôôred!”
“Dwi’n bôôôôred!”
Fel rhieni a gofalwyr, sawl gwaith ydyn ni’n debygol o glywed ein plentyn yn dweud hyn – yn enwedig pan rydyn ni dan do, gartref?!
Does dim rhaid i fod yn ein hamgylchedd arferol fod yn ddiflas. Mae digonedd o ffyrdd hwyliog ar gyfer chwarae yn ac o amgylch y cartref er mwyn cadw’r plant yn hapus a diddan.
Dyma ein 35 syniad gorau ar gyfer chwarae adref:
-
- Rasys “?y” ar lwy (dim angen wyau go iawn - bydd pêl ping-pong yn gweithio’n iawn).
- Actio stori allan o lyfr
- Brwydr glustogau dan fwgwd (blindfold) - gwisgo hwdis y tu ôl ymlaen
- Addurno canhwyllau
- Chwarae llif draws (Cat’s cradle)
- Dal y dylwythen deg (gan ddefnyddio tortsh a’i goleuo mewn ystafell dywyll)
- Gemau clapio
- Brwydr cyrc … tebyg i frwydr fwyd ond gyda llai o lanast!
- Tynnu lluniau a lliwio i mewn
- Gwisgo i fyny
- Mae’r llawr yn lafa
- Mi welaf i, â’m llygad bach i…
- Sioe ffasiynau
- Chwarae cuddio
- Chwarae Sgots (Hopscotch) - creu’r grid gyda thâp ar lawr
- Modelu jync gydag eitemau t? heb fod yn rhy fawr
- Disgo yn y gegin
- Creu ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardbord
- Creu cuddfannau
- Creu awyrennau papur
- Creu bydoedd bychain gyda dinosoriaid, ceir bach, anifeiliaid bach
- Cadeiriau cerddorol
- Cwrs rhwystrau - gan ddefnyddio clustogau’r soffa, cadeiriau,
- Ping-pong neu bêl foli gyda bal?n
- Chwarae ysgol, caffi, swyddfa, siop, trin gwallt
- Creu perfformiad
- Carreg / papur / siswrn
- Drymiau sosbannau
- ‘Simon says’
- Sgipio neu Sgipio Ffrengig (gydag elastig)
- Pypedau sanau
- Sledio lawr grisiau mewn bocsys cardbord a chasys gobenyddion
- Cerrig sarn gyda chlustogau
- Te parti / picnic dan do
- Helfa drysor
Sawl un all eich teulu chi ei wneud?
Mwy o syniadau chwarae
Mae gennym hefyd rywfaint o syniadau ar gyfer chwarae poitshlyd:
- Paentio
- Creu ‘glŵp’ neu lysnafedd
- Creu a chwarae gyda thoes chwarae
- Creu swigod gyda gwellt yfed
- Creu cacennau mwd, swynion a phersawr.
Mae bod yn boitshlyd yn rhan naturiol o blentyndod ond os oes gennych unrhyw bryderon, darllenwch ein cynghorion ar ddelio gyda chwarae poitshlyd!
Pam fod chwarae’n bwysig
Mae chwarae - y tu mewn a’r tu allan - yn dda i blant. Pan fydd plant yn dewis beth i’w chwarae, gyda phwy i chwarae, a sut i drefnu eu chwarae, fe fyddan nhw’n cael mwy o hwyl. Yn ogystal, mae plant yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae. Mae chwarae’n helpu plant i ddatblygu: hunan-barch, dychymyg, creadigedd, cydsymudiad corfforol, hyder, canolbwyntio, sgiliau cyfathrebu, balans… ond yn bennaf oll, mae chwarae’n hwyl!
Ymunwch yn yr hwyl
Rydym yn paratoi ar gyfer adeg pan fydd rhaid i rieni a’u plant aros adref. Os hoffech chi fod yn rhan o’r hwyl a helpu teuluoedd eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn, anfonwch fideo atom ohonoch chi a’ch teulu yn rhannu eich syniadau chwarae dan do gorau neu, os hoffech fwy o wybodaeth, mae croeso ichi ein e-bostio.
Hefyd, rhannwch eich syniadau chwarae gyda ni - tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter – a defnyddiwch #ProsiectChwarae!
Gall 35 syniad chwarae dan do cael eu hargraffu a'u rhannu.