Chwarae adref

Syniadau chwarae

Chwarae adref

Dy gartref yw lle chwarae cyntaf dy blentyn – a’r mwyaf cyfarwydd. Gall dy blentyn wneud defnydd creadigol o unrhyw ofod sydd ar gael – hyd yn oed gornel mewn ystafell – os yw’n cael rhyddid i chwarae a rhywfaint o deganau a phethau eraill.

Mae chwarae adref yn helpu dy blentyn deimlo’n ddiogel, yn saff a hapus. Fel arfer, bydd plant ifanc yn mwynhau ailadrodd yr un mathau o chwarae drosodd a throsodd, ac mae hyn yn hawdd ei wneud adref.

Mae plant hŷn hefyd yn mwynhau cynefindra chwarae adref. Efallai y byddant am chwarae ar eu pen eu hunain neu gyda thi, gyda ffrindiau neu frodyr a chwiorydd. Os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar neu os ydych oddi cartref, gall cael pethau cyfarwydd i chwarae gyda nhw helpu dy blentyn i setlo i lawr.

Dyma ambell syniad chwarae hwyliog, hawdd y gall dy blentyn eu mwynhau adref.

Amser bath

Mae amser bath neu gawod yn amser perffaith i chwarae gyda dŵr, sblasio a chael hwyl.

Galli wneud amser bath hyd yn oed yn fwy o hwyl gyda:

  • pethau sy’n arnofio neu suddo, fel rhidyllau, cwpanau plastig a hwyaid rwber
  • caneuon a rhigymau
  • arogleuon, teimladau a gweadau gan ddefnyddio pethau fel swigod, sebon, diferion a sbyngau.

Cofia oruchwylio plant ifanc pan maen nhw yn y bath neu’n chwarae gyda dŵr bob amser.

Tasgau o amgylch y tŷ

Gall dy blentyn gael llawer o hwyl yn ymuno mewn tasgau o gwmpas y tŷ y mae’n dy weld di’n eu gwneud. Efallai y bydd angen iti fod yn hynod o amyneddgar, gan y gallai’r tasgau gymryd mwy o amser neu fod ychydig yn flerach pan fydd dy blentyn yn dy ‘helpu’!

Mae tasgau hwyliog o amgylch y tŷ yn cynnwys:

  • golchi’r llestri (gwna’n siŵr dy fod yn tynnu allan unrhyw eitemau miniog a phethau allai dorri yn gyntaf)
  • golchi’r ffenestri gyda bwcedi o ddŵr sebonog
  • sgubo neu hwfro’r llawr
  • sgleinio pethau fel handlenni drysau neu sosbannau.

Amser bwyd

Mae amser bwyd yn gyfle gwych i dreulio amser gyda’ch gilydd. Bydd rhoi sgriniau a ffonau i’r naill ochr yn ystod amser bwyd yn dy helpu di a dy blentyn i fwynhau eich bwyd a chanolbwyntio ar eich amser gyda’ch gilydd. Mae amser bwyd yn wych ar gyfer:

  • sgwrsio am y diwrnod
  • cynllunio eich antur chwarae nesaf gyda’ch gilydd
  • cychwyn sgyrsiau am destunau diddorol neu ddoniol
  • chwarae gemau syml fel ‘Rwy’n gweld gyda’m llygad bach i’ neu gêm gofio fel ‘Fe es i i’r siop a phrynu...’

Deffro’n gynnar

Dyma rai syniadau ar gyfer adegau pan fydd dy blentyn yn deffro’n gynnar yn y bore yn barod i chwarae.

  • Gosod ardal glyd gyda charthen bicnic a rhywfaint o deganau meddal neu dedi bêrs fel y gall chwarae’n dawel gerllaw.
  • Gadael i dy blentyn swatio yn y gwely gyda thi.
  • Cadw’r golau’n isel ac osgoi dyfeisiau a sgriniau.
  • Cadw bentwr o’ch hoff lyfrau wrth law i’w darllen gyda’ch gilydd.
  • Ewch allan am dro gyda’ch gilydd ben bore.

Chwarae bywiog

Mae’n well i blant ac arddegwyr os na fyddan nhw’n treulio gormod o amser yn eistedd yn llonydd. Os ydyn nhw’n eistedd yn llonydd, er enghraifft o flaen sgrîn, yn darllen neu’n gwylio’r teledu, galli helpu.

Galli eu hatgoffa i gael egwyl a gosod larwm i’w hatgoffa i godi a symud o gwmpas. Galli awgrymu syniadau ar gyfer gweithgareddau eraill hefyd, a gosod esiampl dda trwy wneud yn siŵr nad wyt tithau’n eistedd yn rhy hir.

Dyma rywfaint o syniadau ar gyfer chwarae bywiog adref:

  • cuddfannau, cestyll a siopau wedi eu creu adref
  • cwrs ras rwystrau bychan wedi’i greu o glustogau a matiau
  • hoff gemau fel chwarae cuddio a mudchwarae (charades)
  • helfeydd trysor o amgylch y tŷ
  • bocsys cardbord i’w troi’n geir, cestyll neu longau gofod.

Galli gael hyd i lawer o gynghorion ar gyfer chwarae yn ac o amgylch dy dŷ yn ein Canllaw chwarae adref

Sŵn a llanast

Mae’n normal i blant fod yn swnllyd a chreu llanast wrth chwarae.

Mae sŵn yn arwydd da bod plant yn cyfathrebu a rhyngweithio. Os yw’r sŵn wir yn broblem, galli awgrymu iddyn nhw symud i rywle arall ble y bydd ganddynt fwy o ryddid i fod yn nhw eu hunain heb fod angen bod mor ddistaw, fel eu hystafell wely. Efallai yr hoffet awgrymu gweithgareddau tawelach, er enghraifft ‘Mi welaf i, â’m llygad bach i’.

’Does dim rhaid i lanast fod yn broblem – darllena ein awgrymiadau anhygoel ar gyfer delio â chwarae poitshlyd.

 

Gallet ti ddod o hyd i hyd yn oed mwy o syniadau ar gyfer chwarae gartref yn ein erthygl blog, “Dwi’n bôôôôred!”

 

English