Cydiwch yn eich welingtons a chotiau, a beth am chwarae?!

Nid oes rhaid i’r dyddiau byrrach a’r oerfel ddifetha amser chwarae dy blant. Mae’r hydref yn gyfnod perffaith i fynd allan, archwilio a chael hwyl. Felly, cydiwch yn eich welingtons a chotiau, a beth am chwarae?!

Dyma ambell syniad chwarae i dy blant geisio'r hydref hwn:

  1. Chwarae ‘Pooh sticks’
  2. Creu siapiau cysgod
  3. Chwilio am bethau hydrefol wrth fynd am dro
  4. Creu cuddfan
  5. Mynd ar helfa sborion
  6. Cerfio pwmpen
  7. Chwarae cuddio yn y tywyllwch
  8. Dal dy gysgod
  9. Neidio mewn pyllau
  10. Gwylio’r sêr.

Boncyrs am concyrs 

Syniad chwarae arall gwych ar gyfer yr Hydref yw casglu a chwarae concyrs. Mae chwarae concyrs yn annog plant i fynd allan i gael awyr iach, a’u tynnu oddi wrth sgriniau.

Os nad wyt ti’n cofio sut i chwarae concyrs, dyma ein fideo i dy atgoffa!

Ymuno yn yr hwyl

Beth am rannu lluniau o dy blant yn cymryd rhan yn y syniadau chwarae hydrefol hyn? Tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook a Instagram – a defnyddia'r hashnod #ChwaraeHydrefol.

Darganfod mwy am chwarae tu allan, beth bynnag fo’r tywydd

Am wefan Plentyndod Chwareus

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Cadw’n egnïol trwy chwarae

Erthygl nesaf
English