Cydiwch yn eich welingtons a chotiau, a beth am chwarae?!
Nid oes rhaid i’r dyddiau byrrach a’r oerfel ddifetha amser chwarae dy blant. Mae’r hydref yn gyfnod perffaith i fynd allan, archwilio a chael hwyl. Felly, cydiwch yn eich welingtons a chotiau, a beth am chwarae?!
Dyma ambell syniad chwarae i dy blant geisio'r hydref hwn:
- Chwarae ‘Pooh sticks’
- Creu siapiau cysgod
- Chwilio am bethau hydrefol wrth fynd am dro
- Creu cuddfan
- Mynd ar helfa sborion
- Cerfio pwmpen
- Chwarae cuddio yn y tywyllwch
- Dal dy gysgod
- Neidio mewn pyllau
- Gwylio’r sêr.
Boncyrs am concyrs
Syniad chwarae arall gwych ar gyfer yr Hydref yw casglu a chwarae concyrs. Mae chwarae concyrs yn annog plant i fynd allan i gael awyr iach, a’u tynnu oddi wrth sgriniau.
Os nad wyt ti’n cofio sut i chwarae concyrs, dyma ein fideo i dy atgoffa!
Ymuno yn yr hwyl
Beth am rannu lluniau o dy blant yn cymryd rhan yn y syniadau chwarae hydrefol hyn? Tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook a Instagram – a defnyddia'r hashnod #ChwaraeHydrefol.
Darganfod mwy am chwarae tu allan, beth bynnag fo’r tywydd