Chwarae gartref yn ystod y gwyliau
Mae’n bwysig i dy blentyn i gael seibiant o’i drefn arferol, gan gynnwys yr ysgol, o bryd i’w gilydd. Mae cael yr amser, lle a’r cyfle i chwarae’n hapus yn galluogi plant i ymlacio, troi i ffwrdd o waith ysgol a phrosesu eu meddyliau a’u teimladau eu hunain…
Mae'r gwyliau ysgol yn amser gwych i blant ymlacio a chael hwyl, ond i rieni gall jyglo gofal plant a gwaith neu tasgiau eraill fod yn heriol. Mae gweithio gartref yn rhoi’r hyblygrwydd i rieni fod gyda’u plant, ond weithiau gall deimlo fel bod dy blentyn yn cael ei adael i ddifyrru ei hun am rannau helaeth o’r dydd.
Paid â digalonni – mae caniatáu i dy blentyn chwarae’n annibynnol mewn amgylchedd saff a diogel yn beth da. Mewn gwirionedd, mae chwarae annibynnol o gwmpas y cartref yn rhoi cyfle i blant fod yn greadigol a defnyddio eu dychymyg. Mae'n rhoi ymdeimlad o ryddid iddynt lle gallant reoli eu chwarae yn hytrach na chael eu harwain gan oedolion a darganfod beth maent yn ei fwynhau.
Mae’n ddealladwy bod yn bryderus am lanast neu s?n, yn enwedig i rieni sy’n gweithio gartref. Gall gosod ychydig o ffiniau ymlaen llaw leihau’r straen yma – ond cofia bod chwarae swnllyd a phoitshlyd yn rhan naturiol o blentyndod. Mae'n dangos bod dy blentyn yn dangos diddordeb ac yn hyderus yn ei chwarae.
Os oes angen ychydig o anogaeth ar dy blentyn i chwarae’n annibynnol gartref yr hanner tymor hwn, beth am gymryd ysbrydoliaeth o’n tudalennau syniadau.
50 o syniadau chwarae dan do
Llawer o syniadau chwarae dan do, gan gynnwys argraffu a phaentio gyda swigod, delwau cerddorol a gwersylla dan do neu yn yr ardd.
Syniadau ar gyfer chwarae adref
Ambell syniad chwarae hwyliog, hawdd y gall dy blentyn eu mwynhau gartref yn ystod amser bath ac amser bwyd – yn ogystal ag awgrymiadau ar sut y gall dy blentyn ymuno mewn tasgau o gwmpas y cartref.
Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd
Pam fod fy mhlentyn yn hoffi gwneud llanast? Buddiannau chwarae poitshlyd a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant.
Syniadau chwarae awyr agored
Syniadau ar gyfer chwarae mewn mannau awyr agored, megis chwarae yn yr ardd.
Awgrymiadau anhygoel ar gyfer cuddfannau yn y cartref
Mae creu cuddfan - a chwarae ynddi - yn hoff weithgaredd gan blant o bob oed. Mae’n hawdd iawn creu cuddfan gyda phethau sydd yn y cartref.