Digwyddiadau Diwrnod Chwarae 2025
Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Eleni, mae Diwrnod Chwarae’n digwydd Ddydd Mercher 6 Awst 2025. Mae’n gyfle i ddathlu hawl plant i chwarae ac i atgoffa pawb am bwysigrwydd chwarae ar Ddiwrrnod Chwarae, a phob dydd.
Ar Ddiwrnod Chwarae, bydd mudiadau ledled Cymru a gweddill y DU yn trefnu digwyddiadau i ddathlu hawl plant i chwarae. Mae’r digwyddiadau yn cynnig cyfle gwych i blant a theuluoedd fynd allan i chwarae. Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae yn amrywio o bicnic tedi bêrs yn y parc i ddathliadau tref-gyfan – a phopeth yn y canol!
Digwyddiadau yn dy ardal di
I dy helpu di i gynllunio ar gyfer Diwrnod Chwarae, rydym yn rhannu gwybodaeth am rai digwyddiadau sydd ar agor i’r cyhoedd ac sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu. Os wyt ti'n gwybod am ddigwyddiad sy'n digwydd yn dy ardal, rhowch wybod drwy gysylltu â ni drwy e-bost.
Abertawe
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Abertawe, Amgueddfa Cymru a Phartneriaid Chwarae
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am i 2:00pm (10:00am i 11:00am – awr dawel)
Manylion cyswllt: Gwasanaeth Gwybodaeth Deuluol Abertawe
Dewch i godi to'r Amgueddfa ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol! Thema eleni yw Natur Anhygoel!
Yn cynnwys:
- sgiliau syrcas a gemau gan Circus Eruption, gan gynnwys pêl Daear enfawr a gemau parasiwt
- celf a chrefft
- adeiladu ffau
- cymeriadau ar grwydr
- paentio wynebau
- amser odli yn Gymraeg
- stondinau gwybodaeth
- cerddoriaeth fyw
- ...a diweddglo llawn conffeti!
Blaenau Gwent
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Blaenau Gwent
Trefnydd: Tîm Chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin
Lleoliad: Tŷ a Pharc Bedwellty, Tredegar, NP22 3NA
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am i 3:00pm
Manylion cyswllt: Sharon Cargill, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Bydd Blaenau Gwent yn dod yn fyw gyda sŵn plant yn chwarae i ddathlu’r Diwrnod Chwarae cenedlaethol.
Mynediad am ddim a gweithgareddau am ddim - hwyl i bawb yn y teulu ac i bob oedran!
Caerdydd
Digwyddiad: Digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
Trefnydd: Gwasanaeth Chwarae Plant Caerdydd
Lleoliad: Canolfan Hamdden y Dwyrain, Llanrumney Avenue, Caerdydd CF3 4DN
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 1:00pm i 4:00pm
Manylion cyswllt: Becki Miller / Tîm Chwarae Plant Caerdydd, Cyngor Caerdydd
Dathlwch Ddiwrnod Chwarae cenedlaethol gyda digwyddiad llawn hwyl i bob oed! Mwynhewch brofiadau chwarae poitshlyd, creadigol ac actif. Dewch i gwrdd â phartneriaid cymunedol lleol a chydweithwyr Cymorth Cynnar, a fydd wrth law i rannu gwybodaeth am wasanaethau cymorth Cyngor Caerdydd sydd ar gael i deuluoedd. Dewch i chwarae, cysylltu ac archwilio!
Digwyddiad: Digwyddiad Symudiad Blynyddoedd Cynnar Cymru 'Hedfan Barcud'
Trefnydd: Blynyddoedd Cynnar Cymru
Lleoliad: Lawnt y Berllan, Parc Bute, Caerdydd, CF10 3ER
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:30am i 3:30pm
Manylion cyswllt: Tîm Blynyddoedd Cynnar Cymru / 029 2045 1242
Ymunwch â ni am ddathliad awyr agored o symudiad, hwyl a chysylltiad teuluol! Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at blant 0 i 5 oed.
Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio ar gyfer rhieni a gofalwyr i gymryd rhan mewn symudiad chwareus gyda'i gilydd, a'u nod yw arddangos yr ystod o gefnogaeth, gweithgareddau a chyfleoedd sydd ar gael i deuluoedd.
Casnewydd
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2025
Trefnydd: Gwasanaeth Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Dinas Casnewydd
Lleoliad: Rodney Parade, Casnewydd, NP19 0UU
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am i 3:00pm
Manylion cyswllt: Gwasanaeth Chwarae ac Ieuenctid Casnewydd
Diwrnod o hwyl i'r teulu cyfan. Mwynhewch amrywiaeth o weithgareddau chwarae lle byddwch chi'n gallu bod yn greadigol, gwneud llanast a chael llawer o hwyl.
Castedd Nedd Port Talbot
Digwyddiad: Digwyddiad Symudiad Blynyddoedd Cynnar Cymru 'Hedfan Barcud'
Trefnydd: Blynyddoedd Cynnar Cymru
Lleoliad: Tŷ Sitrws, Parc Margam, Port Talbot, SA13 2TA
Dyddiad: 13 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:30am i 3:30pm
Manylion cyswllt: Tîm Blynyddoedd Cynnar Cymru / 029 2045 1242
Ymunwch â ni am ddathliad awyr agored o symudiad, hwyl a chysylltiad teuluol! Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at blant 0 i 5 oed.
Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio ar gyfer rhieni a gofalwyr i gymryd rhan mewn symudiad chwareus gyda'i gilydd, a'u nod yw arddangos yr ystod o gefnogaeth, gweithgareddau a chyfleoedd sydd ar gael i deuluoedd.
Conwy
Digwyddiad: Dathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Conwy
Trefnydd: Gwasanaeth Chwarae Conwy
Lleoliad: Parc Eirias, Eirias Rd, Bae Colwyn LL29 7SP
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 12:00pm i 4:00pm
Manylion cyswllt: Nat Minard, Uwch Swyddog Chwarae, Gwasanaeth Chwarae Conwy
Hwyl i’r teulu cyfan am ddim! Dewch â phicnic i wneud diwrnod ohoni!
Gwisgwch hen ddillad/dillad sy’n iawn i’w baeddu.... (eu baeddu’n ddrwg iawn!) Bydd angen goruchwyliaeth rhieni yn y gweithgareddau!
Ceredigion
Digwyddiad: Dydd Chwarae RAY
Trefnydd: RAY Ceredigion
Lleoliad: Cae Sgŵar Alban, Aberaeron, Ceredigion SA46 0AJ
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:30am i 3:30pm
Manylion cyswllt: RAY Ceredigion
Gweithgareddau am ddim i blant o bob oedran a diwrnod allan sy'n addas i deuluoedd. Bydd dros 30 o stondinau gwahanol a gweithgareddau am ddim. Eleni byddwn yn croesawu Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes.
Sir Ddinbych
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae 2025
Trefnydd: Tîm Chwarae Sir Ddinbych
Lleoliad: Caeau chwarae Christchurch, wrth ymyl Canolfan y Dderwen, Rhyl, LL18 2DY
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am i 3:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych
Bydd ein digwyddiad Diwrnod Chwarae yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau chwareus, fel:
- adeiladu cuddfan
- chwarae anniben
- rhannau rhydd
- gwisgo i fyny
- ysgol y goedwig
- peintio wynebau
- sgiliau syrcas
- chwarae dŵr
- slip 'n' slide enfawr
- disgo tawel
- a llawer, llawer mwy.
Dysgwch fwy ar Facebook neu ewch i'r wefan.
Sir Gâr
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Lleoliad: Parc Rhydaman, SA18 3AN (neu Canolfan Hamdden Rhydaman SA18 2NW, mewn tywydd gwael)
Dyddiad: 4 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 1:00pm i 4:00pm
Manylion cyswllt: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Dewch i ymuno â'r dathliadau Diwrnod Chwarae rhad ac am ddim i'r teulu.
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Lleoliad: Parc Caerfyrddin, SA31 3DF (neu Neuadd Ddinesig San Pedr SA31 1PG, mewn tywydd gwael)
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 1:00pm i 4:00pm
Manylion cyswllt: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Dewch i ymuno â'r dathliadau Diwrnod Chwarae rhad ac am ddim i'r teulu.
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Lleoliad: Parc Howard, Llanelli, SA15 3LJ (neu Amguedda Parc Howard SA15 3L, mewn tywydd gwael)
Dyddiad: 8 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 1:00pm i 4:00pm
Manylion cyswllt: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Dewch i ymuno â'r dathliadau Diwrnod Chwarae rhad ac am ddim i'r teulu.
Ynys Môn
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
Trefnydd: Uned Cefnogi Teuluoedd, Cyngor Sir Ynys Môn
Lleoliad: Clwb Rygbi Llangefni, Cae Smyrna, Llangefni, LL77 7EU
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am i 2:00pm (10:00am – ceir mynediad blaenoriaeth i blant anabl a'r rhai ag anghenion ychwanegol)
Manylion cyswllt: Gofal Plant a Chwarae Mon
Diwrnod llawn hwyl rhad ac am ddim i bawb. Bydd castell bownsio, chwarae meddal, gweithgareddau chwaraeon, crefftau a mwy.
Mae rhieni'n gyfrifol am eu plant bob amser.
Wrecsam
Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Trefnydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad: Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf, canol dinas Wrecsam
Dyddiad: 6 Awst 2025
Amseroedd dechrau a gorffen: 12:00pm i 4:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Wrecsam
Mae Diwrnod Chwarae ar gyfer pobl o bob oedran gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn, arddegwyr, rhieni, neiniau a theidiau a gweithwyr proffesiynol. Mae croeso i bawb ymuno yn y digwyddiad chwareus am ddim hwn. Bydd sefydliadau sy'n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae plant o bob cwr o Wrecsam yn dod at ei gilydd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwareus am ddim, gan gynnwys ffefrynnau fel y pwll tywod enfawr a chwarae junk.
Nodyn: wrth i Diwrnod Chwarae agosáu byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda digwyddiadau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi, felly cofia ddod yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Dathlu gyda theulu a ffrindiau
Hefyd, os nad oes digwyddiad cyhoeddus yn digwydd yn dy ardal di, beth am ddathlu gyda dy deulu gartref, neu gwrdd â ffrindiau yn y parc, maes chwarae neu’r traeth, i gael diwrnod yn llawn chwarae. Os wyt ti'n edrych am awgrymiadau chwareus, cymer gip olwg ar yr adran Syniadau chwarae.
Am y wybodaeth ddiweddaraf – ac i rannu sut wyt ti'n dathlu – defnyddia'r hashnod #DiwrnodChwarae2025 ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mwy o wybodaeth am Diwrnod Chwarae