Syniadau chwarae yn yr awyr agored
Mae digon o ffyrdd syml a chwareus y galli di a dy blant gael hwyl tu allan yn yr awyr iach, heb orfod gwario llawer o arian.
I dy helpu i wneud y mwyaf o dy amser chwarae, dyma 36 o’n hoff syniadau, wedi’u rhannu ar draws chwe lle poblogaidd yn yr awyr agored i ymweld â nhw a'u mwynhau.
Chwe pheth i'w gwneud yn dy ardd:
- creu cwrs rhwystrau
- cael cystadleuaeth ddawnsio
- adeiladu gwesty bygiau
- chwarae ‘Faint o’r gloch, Mistar Blaidd?’
- creu trwythau
- cael picnic tedis
Chwe pheth i'w gwneud ar y traeth:
- adeiladu cestyll neu gerfluniau tywod
- casglu cregyn, cerrig mân neu wydr môr diddorol
- chwarae siapiau O X O yn y tywod
- gwneud angylion tywod
- mynd i’r pyllau glan môr a chwilio am greaduriaid bach
- mynd i badlo
Chwe pheth i'w gwneud ar y palmant tu allan i dy gartref:
- tynnu llun â sialc a chwarae ’sgots
- peintio gyda d?r gan ddefnyddio brwshys neu sbyngau
- llunio map a gwneud helfa drysor
- chwarae Mochyn yn y canol
- rasio awyrennau papur
- cael brwydr dd?r
Chwe pheth i'w gwneud yn dy fan gwyrdd neu dy barc lleol:
- chwarae tag
- chwilio am fwystfilod bach
- cael ras whilber/ferfa (gochela rhag baw ci!)
- chwarae ‘mi wela i, â’m llygad bach i...’
- creu dy Gemau Olympaidd dy hun
- chwarae cuddio
Chwe pheth i'w gwneud ar daith gerdded drwy goetir:
- chwilio am adar
- cofleidio coeden (rho cwtsh bach i fyd natur!)
- cyfri'r synau (gorweddwch ar y ddaear gyda’ch lygaid ar gau a chyfrifwch faint o wahanol synau y gallwch chi eu clywed)
- gwneud cuddfan
- casglu brigau, dail a cherrig a chreu celf natur
- dringo coeden
Chwe pheth i'w gwneud ar daith gerdded ar hyd yr afon:
- chwarae brigau’n rasio dros unrhyw bontydd rwyt ti’n eu croesi
- gwneud helfa sborion
- bwydo hwyaden (dim bara, os gweli di’n dda – galli di gynnig letys, corn melys, pys wedi'u rhewi, ceirch, hadau neu reis)
- creu cwch allan o frigau a dail
- chwilio am bysgod
- sblasio mewn pyllau