Manteision chwarae yn y blynyddoedd cynnar
Gallwn ni i gyd gofio pa mor anhygoel oedd chwarae pan oedden ni’n blant. Wrth chwarae, roedd ein dychymyg yn rhedeg yn wyllt. Gallen ni fod yn bwy bynnag roedden ni eisiau bod, archwilio popeth o’n cwmpas a chreu neu adeiladu pethau gyda bron unrhyw beth y gallen ni ddod o hyd iddo. Chwarae oedd ein ffordd o gael hwyl, ac roedd yn rhoi’r rhyddid i ni wneud beth bynnag roedden ni eisiau ei wneud.
Nawr, rydyn ni’n gwybod nad dim ond ffordd i blant fwynhau plentyndod yw chwarae, mae’n hanfodol i’w hiechyd, eu lles a’u datblygiad. Er gwaethaf hyn, mae rhyddid plant i chwarae wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi digwydd oherwydd pethau fel pryderon am ddiogelwch, mannau cyhoeddus sydd wedi’u cynllunio’n wael a chynnydd mewn technoleg ddigidol.
Dyna pam mae’n bwysig blaenoriaethu chwarae. Mae hyn yn dechrau drwy ddeall mwy am pam mae chwarae mor bwysig i blant, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar.
Pam mae chwarae’n bwysig i blant ifanc
Mae chwarae o fudd i bob plentyn. O’r dyddiau cynharaf, a hyd yn oed cyn cael eu geni, mae plant yn chwarae mewn gwahanol ffyrdd. Mae ciciau chwareus babi yn y groth, cŵan a chlebran babi, a gêm syml o pi-po i gyd yn bethau chwareus. Mae’r gweithgareddau hyn yn ddifyr ac yn hwyliog – a dyna sut mae plant yn dechrau datblygu ystod eang o sgiliau.
I fabanod, plant bach a phlant ifanc, mae manteision chwarae yn cynnwys:
- Dysgu a datblygiad yr ymennydd: mae chwarae’n cefnogi dysgu a datblygiad yr ymennydd, sy’n arbennig o bwysig yn ystod y blynyddoedd cynnar. Wrth chwarae, mae plant yn datrys problemau, yn dysgu geiriau newydd, yn ymarfer sgiliau, yn darganfod syniadau ac yn archwilio sut mae pethau’n gweithio.
- Gweithgaredd a datblygiad corfforol: mae cropian, gafael a rholio yn helpu babanod a phlant bach i ddatblygu eu cyhyrau, eu cydlyniad a’u sgiliau symud. Yn aml, mae plant ifanc yn gorfforol egnïol pan fyddan nhw’n chwarae – rhedeg, neidio, dawnsio, dringo, codi, gwthio a thynnu. Mae hyn yn eu cadw'n heini ac yn eu helpu i ddatblygu hyder a hunan-barch.
- Sgiliau cymdeithasol a pherthnasoedd: mae chwarae gyda’r rhai sy’n gofalu amdanynt a gyda phlant eraill yn helpu babanod a phlant bach i ddysgu sut i gyfathrebu, dangos empathi a chydweithio. Pan fyddan nhw’n chwarae, mae plant ifanc yn gwneud ffrindiau. Maen nhw hefyd yn cweryla weithiau ac yn dysgu am ddisgwyliadau cymdeithasol fel rhannu a chymryd rhan.
- Lles emosiynol a theimladau: drwy chwarae, mae babanod yn dysgu sut i fynegi a rheoli eu hemosiynau, gan feithrin hunanhyder a gwydnwch. Mae pob plentyn yn mynegi ei hun drwy chwarae. Wrth chwarae, maen nhw’n aml yn teimlo’n hapus, yn cael hwyl ac yn gollwng stêm. Mae chwarae hefyd yn eu helpu i ddeall a delio â theimladau fel rhwystredigaeth, dicter, tristwch a boddhad.
Gwneud amser i chwarae
Mae plant yn gwybod yn naturiol sut i chwarae, ond mae angen amser, caniatâd a lle arnyn nhw i wneud hynny. Cam cyntaf gwych i sicrhau bod chwarae’n rhan o bob diwrnod yw meddwl sut gelli di fod yn fwy chwareus fel rhiant. Gallet ti wneud pethau fel gadael i dy blentyn ddewis sut mae’n chwarae, gadael iddo ddatrys ei broblemau ei hun, a chymryd cam yn ôl fel ei fod yn cael cyfle i roi cynnig ar bethau drosto’i hun.
Beth bynnag fyddi di’n ei wneud, paid ag aros nes bydd bywyd yn llai prysur i wneud amser i chwarae. Bydd unrhyw beth gelli di ei wneud nawr yn cael effaith barhaol. Treulia un funud arall yn chwarae pi-po. Edrycha ary byd drwy lygaid plentyn – rho’r hen focsys iddyn nhw, y cynfasau rwyt ti ar fin cael gwared arnyn nhw, neu gornel o’r ardd lle gallan nhw gloddio. Arhosa fymryn yn hirach i ryfeddu at yr hwyaid yn y parc, i adael iddyn nhw ddringo ar foncyff neu i wthio’r troli yn yr archfarchnad.
Mae plentyndod yn fyr, ond mae effaith cael plentyndod chwareus yn para am byth.
Gwybodaeth bellach
Darllena fwy o awgrymiadau anhygoel ar gyfer magu plant yn chwareus, dysga fwy am fanteision chwarae, a chael syniadau chwarae i blant ifanc.
Os wyt ti’n gweithio gyda phlant ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr, darllena daflen wybodaeth Chwarae Cymru Chwarae yn y 1000 diwrnod cyntaf i ddarganfod sut y gelli di hyrwyddo chwarae.