Cadw’n egnïol trwy chwarae
Mae chwarae’n helpu plant i archwilio, dysgu am eu byd a theimlo’n hapus. Mae gwneud yn si?r bod amser, lle a rhyddid i chwarae tu fewn a thu allan yn ffordd wych o sicrhau bod plant yn symud o gwmpas ac yn cael hwyl! Hefyd, mae bod yn egnïol a chwarae’n llosgi egni ac yn helpu i atal afiechydon difrifol fel diabetes math 2, clefyd y galon a chanser pan fyddwch yn h?n.
Chwarae egnïol
Mae chwarae egnïol yn weithgarwch corfforol gyda phlyciau rheolaidd o symud tempo arferol i egnïol, fel cropian, neidio, neu redeg. Mae chwarae egnïol yn cynyddu curiad calon plentyn ac yn gwneud iddyn nhw ‘chwythu a phwffian’.
Faint o chwarae egnïol y dylai plant ei gael?
Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ar gyfer datblygiad plant. Mae eu canllawiau’n argymell y dylai plant gael cymaint o chwarae egnïol â phosibl. Y neges gyffredinol yw bod unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae mwy yn well fyth.
Babanod (iau na blwydd oed)
- Fe ddylen nhw fod yn gorfforol egnïol nifer o weithiau’r dydd mewn llawer o ffyrdd, yn cynnwys gweithgarwch rhyngweithiol ar lawr, fel cropian.
- Dylai babis gael o leiaf 30 munud o amser bol wedi ei wasgaru trwy’r dydd pan maen nhw’n effro. Fe ddylen nhw hefyd gael cyfleoedd i ymestyn a gafael, gwthio a thynnu eu hunain i fyny’n annibynnol a rholio drosodd.
Plant bach (1-2 oed)
- Dylai plant bach dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud llawer o wahanol fathau o weithgareddau corfforol, yn cynnwys chwarae egnïol a chwarae yn yr awyr agored, wedi ei wasgaru trwy’r dydd.
Plant dan oed ysgol (3-4 oed)
- Dylai plant dan oed ysgol dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud llawer o wahanol fathau o weithgareddau corfforol wedi eu gwasgaru trwy’r dydd, yn cynnwys chwarae egnïol a chwarae yn yr awyr agored. Mae mwy yn well a dylai o leiaf 60 munud fod yn weithgarwch corfforol lefel arferol i egnïol.
Plant h?n (5-18 oed)
- Dylai plant gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol arferol i egnïol am 60 munud y dydd. Gall y gweithgareddau hyn gael eu rhannu ar draws y diwrnod.
- Dylai plant hefyd gymryd rhan mewn rhywfaint o weithgareddau sy’n datblygu sgiliau symud a chryfder y cyhyrau a’r esgyrn trwy gydol yr wythnos. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys sboncio, sgipio a siglo ar offer maes chwarae gan ddefnyddio pwysau eu corff neu wthio’n erbyn rhywbeth i greu gwrthiant.
- Ni ddylai plant dreulio cyfnodau hir yn eistedd yn llonydd neu ddim yn symud. Mae angen i oedolion helpu plant a phlant yn eu harddegau i dreulio llai o amser yn gwneud pethau fel amser sgrîn (yn gwylio’r teledu, defnyddio cyfrifiadur, chwarae gemau fideo), yn eistedd i ddarllen, siarad, gwneud gwaith cartref, neu wrando ar gerddoriaeth.
Chwarae’n egnïol yn yr awyr agored
Mae chwarae tu allan yn rhoi lle i blant redeg, dringo, rowlio, neidio, cuddio, a llosgi eu hegni. Dylai gweithgarwch corfforol arferol wneud i blant deimlo’n fwy cynnes ac anadlu’n drymach, fel:
- cerdded yn gyflym
- mynd ar gefn beic
- gwisgo esgidiau rholio
- gweithgareddau cae chwarae.
Bydd gweithgareddau egnïol yn gwneud siarad yn anoddach i blant, fel:
- rhedeg yn gyflym
- chwarae tic
- sgipio.
Darllen mwy am pam fod chwarae’n bwysig i dy blentyn di