“Beth allwn ni chwarae?”
Wrth i ni barhau i dreulio mwy o amser yn ein cartref ac oddi wrth ein teuluoedd a ffrindiau dros benwythnos g?yl y banc, beth am roi tro ar rai o’n syniadau chwarae diweddaraf?
I helpu i ysbrydoli dy blant – a’r teulu cyfan – rydym wedi roi at ei gilydd rhestr o 50 syniad i’w chwarae gartref:
- Argraffu a phaentio gyda swigod
- Helfa pryfetach
- Adeiladu gwesty pryfetach
- Adeiladu t?r mawr tal gyda phac o gardiau
- Adeiladu dy greadigaeth dy hun gyda blociau neu lego
- Gwersylla dan do neu yn yr ardd
- Gemau cardiau – snap, parau
- Charades / Give us a clue
- Dal dy gysgod
- Lliwio rhai o’n cartwnau
- Creu ffilm
- Creu pypedau cysgod
- Addasu hen ddillad i greu gwisgoedd newydd
- Gemau tynnu llun – ‘Pictionary’, gêm OXO, hangman
- Hwyl gyda balwnau – cadw’r bal?n oddi ar lawr, rasys gyda balwnau rhwng eich coesau, statig ar dy wallt, ceisio ei chael i lynu i’r wal gan ddefnyddio dim ond trydan statig
- Bod yn greadigol gyda thiwbiau papur toiled - creu anifeiliaid, rocedi
- Mynd ar helfa eirth dan do
- Rhoi tro ar jyglo
- Jenga (bydd yn greadigol - defnyddia focsys ‘Tupperware’, blychau gwag)
- Creu dalen-nodyn (bookmarker) ar gyfer y llyfr stori newydd – Hwyl yn yr ardd
- Creu hamog gyda chynfas gwely a bwrdd
- Creu trac rasio gyda thâp masgio
- Creu llyfr lloffion
- Creu t?r o esgidiau
- Creu swigod
- Creu ‘radio’ tuniau a chortyn
- Creu dillad ar gyfer doli neu dedi bêr
- Creu gwe dal breuddwydion
- Creu lluniau argraffu gyda’r bysedd neu’r dwylo
- Creu pethau dweud ffortiwn o bapur
- Creu breichledi cyfeillgarwch
- Creu offerynnau cerdd gyda hen eitemau o’r t?
- Creu mygydau a chlogynnau arch-arwyr gyda hen gynfasau neu ddefnydd
- Gemau cofio / gemau cysylltu geiriau
- Cyfnewid cadeiriau cerddorol
- Delwau cerddorol
- Paentio wynebau eich gilydd
- Pasio’r parsel
- Rhoi cynffon ar yr asyn
- Chwarae tenis gyda bal?n / sanau wedi eu rholio’n bêl a phlatiau papur neu ddwylo
- Esgus bod yn anifeiliaid a chynnal gorymdaith s? neu jyngl (cerdded fel eliffant neu fwnci neu hwyaden neu ...)
- Creu g?yl gerddorol ar gyfer y teulu
- Creu perfformiad pypedau
- Sardines
- Bowlio deg gyda hen boteli pop / sudd plastig
- Defnyddio tâp masgio i greu gemau ar lawr - nadroedd ac ysgolion, cwrs rhwystrau
- Defnyddio dy sanau i greu lluniau doniol neu i sillafu geiriau
- Argraffu gyda llysiau
- Pwy ydw i? Gêm ddyfalu (‘Post-it’ gydag enw person enwog ar dy dalcen)
- Gwe corryn / pry copyn gyda gwlân neu gortyn - ceisiwch ddringo trwyddo!
Ymunwch yn yr hwyl
Gellir argraffu a rhannu’r 50 syniad chwarae dan do – faint all dy deulu eu cwblhau dros benwythnos g?yl y banc?
Hefyd, rhanna dy syniadau chwarae gyda ni drwy ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter – defnyddia’r hashnod #CoronaPlay neu #PlayAtHome.
Oeddet ti’n gwybod bo ganddo ni restr arall o 35 syniad chwarae dan do? Rhowch dro ar rheini hefyd!