Awgrymiadau anhygoel ar gyfer chwarae pan fyddi di’n brin o amser

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer chwarae pan fyddi di’n brin o amser

Mae bywyd fel rhiant yn brysur. Rhwng bodloni anghenion dy deulu, gwaith, mynd â dod i’r ysgol, a phob dim arall, mae dod o hyd i amser i chwarae a chael hwyl gyda dy blentyn yn gallu teimlo’n amhosibl weithiau.

Er bod plant yn aml yn mwynhau chwarae ar eu pen eu hunain, gyda ffrind neu aelodau eraill o’r teulu, mae treulio amser yn bod yn chwareus gyda dy blentyn yn ffordd bwysig o ymgysylltu ac annog creadigrwydd.

Ond does dim rhaid i chwarae gymryd oriau – gall hyd yn oed ychydig funudau o hwyl wneud gwahaniaeth mawr i hapusrwydd a datblygiad dy blentyn.

Dyma rai ffyrdd syml o gynnwys amser i chwarae yn dy ddiwrnod, pan fydd amser yn brin!

Adegau chwareus yn unrhyw le

Does dim rhaid i bob gêm ddigwydd gartref. Gelli di droi teithiau bob dydd yn gyfle i chwarae:

  • Ar gyfer babanod a phlant ifanc iawn: Chwarae pi-po yn y pram, canu caneuon yn y car neu ar y bws neu’r trên, neu adael iddyn nhw deimlo ansawdd gwahanol bethau wrth fynd am dro.
  • Ar gyfer plant ifanc: Rhoi cynnig ar chwarae ‘Rwy’n gweld gyda’m llygad bach i’ gyda lliwiau, cyfrif bysys neu geir, neu wneud synau anifeiliaid gwirion gyda’ch gilydd.
  • Ar gyfer plant hŷn/oedran ysgol: Chwarae gemau geiriau fel ‘Fyddai’n well gen ti?’ neu ‘20 cwestiwn’ wrth fynd i’r ysgol ac yn ôl. Gad iddyn nhw greu stori wrth gerdded neu yrru i’r ysgol.

Mae adegau bach fel hyn yn gwneud teithiau bob dydd yn fwy o hwyl ac yn rhoi cyfle i ti gysylltu gyda dy blentyn heb orfod dod o hyd i amser ar gyfer gweithgareddau ychwanegol.

I gael ysbrydoliaeth, gwylia’r fideo byr hwn o’r teulu Musinguzi yn mwynhau chwarae y tu allan ar daith gerdded syml i’r parc lleol.

 

Gemau cyflym a hawdd i’w chwarae gartref

Gall hyd yn oed bum munud o chwarae gyda dy blentyn fod yn ystyrlon. Dyma syniadau cyflym ble nad oes angen fawr o ymdrech:

  • Ar gyfer babanod a phlant ifanc iawn: Gorwedd ar y llawr gyda’ch gilydd a gadael iddyn nhw ddynwared dy symudiadau, gwna wynebau gwirion neu gwna sŵn rhyfedd i wneud iddyn nhw chwerthin.
  • Ar gyfer plant ifanc: Cynnal parti dawnsio 30 eiliad, rasio i dacluso ystafell, neu chwarae gêm guddio gyflym.
  • Ar gyfer plant hŷn/oedran ysgol: Rhoi cynnig ar ‘her munud’ – sawl naid seren y gallan nhw eu gwneud mewn 60 eiliad? Ydyn nhw’n gallu adeiladu tŵr sy’n dalach na’u tedi mewn dau funud?

Gall gêm fer godi ysbryd pawb a helpu i gynnwys rhywfaint o chwarae, hyd yn oed ar y dyddiau prysuraf.

I gael ysbrydoliaeth, gwylia’r fideo byr hwn o’r teulu Hamilton yn mwynhau ffyrdd syml a hawdd o chwarae a chael hwyl gartref.

Troi tasgau bob dydd yn weithgaredd chwareus

Gall hyd yn oed dasgau bob dydd bywyd teuluol fod yn chwareus. Beth am droi’r tasgau yn gemau hwyliog y gelli di a dy blentyn eu mwynhau gyda’ch gilydd:

  • Gad i blant ifanc iawn ‘helpu’ drwy basio sanau i ti pan fyddi di’n plygu dillad.
  • Tro amser bath yn ‘amser antur gwlyb’ ar gyfer plant ifanc.
  • Heria blant hŷn i guro’r cloc wrth dacluso eu hystafell neu osod y bwrdd.

Drwy fabwysiadu dull chwareus o gyflawni tasgau a gweithgareddau bob dydd, gall dy blentyn gael hwyl a mwynhau amser gwerthfawr gyda ti. Yn ogystal â hynny, gall gael profiad o bethau bob dydd, bod yn greadigol a dysgu sut i ganfod cyfleoedd i chwarae yn eu bywydau bob dydd.

Mwy o ysbrydoliaeth

I gael mwy o syniadau am wneud y mwyaf o gyfleoedd chwarae am ddim a rhad yn dy gymuned leol neu yn dy gartref, darllena ein herthyglau blog eraill:

Anturiaethau chwarae bob dydd
Chwarae adref

Yn ôl i’r holl erthyglau

50 syniad chwarae ar gyfer y gwyliau

Erthygl nesaf
English