Awgrymiadau anhygoel i chwarae ym myd natur a’i fwynhau gyda phlant o bob oedran

Awgrymiadau anhygoel i chwarae ym myd natur a’i fwynhau gyda phlant o bob oedran

Mae bod allan yn yr awyr agored a mwynhau byd natur yn hollbwysig i blant o bob oedran. O chwilota a darganfod sut mae’r byd yn gweithio yn ystod y blynyddoedd cynnar, i ddefnyddio grym byd natur i leddfu straen pan fyddwn yn ein harddegau – gall creu cyfleoedd i dy blentyn chwarae a chysylltu â byd natur helpu i sicrhau plentyndod iach a hapus.

Mae plant ifanc wrth eu bodd yn chwarae ac yn chwilota

Yn y blynyddoedd cynnar, mae chwarae ym myd natur yn ymwneud â rhyngweithio syml sy’n helpu plant i ymgyfarwyddo â’r byd o’u cwmpas. Cer â dy blant allan a gadael iddynt chwilota, teimlo’r glaswellt o dan eu traed, neidio mewn pwll d?r, cyffwrdd rhisgl coed, a gwrando ar gân yr adar. Ceisia eu hannog i chwarae â phethau naturiol. Er enghraifft, troi brigyn yn ffon hud neu gleddyf gwych mewn byd o hud a lledrith. Mae hyn yn helpu i ddatblygu eu dychymyg, eu creadigrwydd, eu sgiliau symud a’u synhwyrau.

Mae amgylcheddau naturiol gwahanol yn cynnig profiadau gwahanol

Mae amgylcheddau gwahanol yn cynnig cyfleoedd unigryw i chwarae. Cer â’r plant i’r traeth a gadael iddyn nhw chwarae yn y tywod, neidio yn y d?r neu adeiladu cestyll tywod gan wylio’r tonnau’n eu chwalu. Os bydd coedwig gerllaw, gellir troi taith gerdded syml yn antur fach. Ceisiwch enwi gwahanol fathau o goed, anifeiliaid neu bryfed. Gall cerdded ar lan camlas neu afon mewn tref fod yn gyffrous hefyd. Edrychwch ar yr hwyaid neu’r cychod a thrafod sut y mae’r d?r yn llifo o’r mannau uchel i’r mannau isel.

Manteision byd natur i blant h?n 

Efallai y bydd angen mwy o anogaeth ar blant h?n i chwarae yn yr awyr agored, ond mae sawl ffordd hwyliog y gallant fwynhau natur gyda rhywfaint o anogaeth. Yn aml, gweithgareddau mwy heriol sy’n profi eu galluoedd sy’n mynd â’u bryd. Er enghraifft, gall codi pabell yn ystod trip gwersylla fod yn ffordd hwyliog o herio dy blentyn h?n, datblygu ei sgiliau datrys problemau a’i helpu i fagu hyder.

Mae plant h?n hefyd yn hoff o dreulio amser gyda ffrindiau a grwpiau o ffrindiau. Gall eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored gydag eraill fod yn ffordd wych o’u hysgogi i dreulio amser ym myd natur. Ewch am dro i’r goedwig gan adael i’r plant h?n ddewis llwybr, adeiladu cuddfannau, chwilota am fwyd a dringo coed. Rho her iddyn nhw gyda gweithgareddau sy’n gofyn am ddarllen map, fel geogelcio neu gyfeiriannu.

Gall treulio amser ym myd natur fod yn ddihangfa heddychlon o’r drefn ddyddiol brysur a phwysau’r ysgol hefyd. Gall bod yn yr awyr agored helpu arddegwyr i gael gwared â straen ac ymlacio, a gwella eu hiechyd meddwl. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod treulio amser ym myd natur yn gallu gwella hwyliau, gwella’r gallu i ganolbwyntio a hyd yn oed wella creadigrwydd.

Nid oes y fath beth a thywydd gwael – dewiswch y dillad cywir

Gellir ystyried gwynt, glaw a thymheredd oer fel rhwystr rhag mynd allan i archwilio byd natur. Fodd bynnag, ni fel oedolion sy’n gweld y tywydd fel rhwystr. Caiff plant ifanc eu denu at chwarae gwlyb sy’n creu llanast, fel neidio mewn pyllau d?r a gwneud teisennau mwd. Gellir gweld arddegwyr hyd yn oed allan yn cymdeithasu yn y glaw. Mae gweld y tywydd ar waith hefyd yn ffordd wych o ddatblygu dealltwriaeth plant o fyd natur.

Gall esgidiau glaw, dillad gwrth-dd?r, haenau cynnes ac, yn fwy na dim, agwedd bositif tuag at fynd allan i’r awyr agored drawsnewid y trip natur gwlypaf yn brofiad gwerth chweil.

Ein syniadau gwych ar gyfer chwarae ym myd natur

Dyma ambell syniad ymarferol i chwarae ym myd natur ac i wneud eich tripiau natur yn hwyliog ac yn ddiddorol.

  1. Helfa drysor byd natur
  2. Picnic yn yr awyr agored
  3. Chwilio am adar
  4. Syllu ar y sêr
  5. Gwneud crefftau gan ddefnyddio elfennau naturiol megis brigau a dail
  6. Adeiladu cestyll tywod a theisennau mwd
  7. Dringo coed
  8. Gwersylla yn y wlad, ger y traeth… neu hyd yn oed yn eich gardd
  9. Archwilio pyllau glan môr
  10. Chwarae cuddio mewn coedwig.

Cofia mai’r nod yw cael plant o bob oed i fynd allan i fyd natur a chwarae a chael hwyl. Nid oes rhaid i ti gynllunio pob manylyn – yn aml, mae’r canlyniadau gorau yn deillio o wneud pethau’n fyrfyfyr. Felly, gwisgwch eich esgidiau glaw ac allan â chi gan adael i chwilfrydedd eich plant arwain y ffordd!

Dyma pam mae chwarae mor bwysig

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Chwarae gartref yn ystod y gwyliau

Erthygl nesaf
English