




Chwarae yn y gymuned
Ysbrydoliaeth
Ar draws Cymru, mae llu o enghreifftiau gwych o brosiectau a mannau chwarae. Maent yn cefnogi chwarae mewn amrywiol ffyrdd, gan ymateb i anghenion plant, arddegwyr a’r gymuned. Mae’n bosib nad yw rhai o’r rhain yn parhau i ddigwydd ond efallai y bydd yr enghreifftiau hyn yn dy ysbrydoli i roi tro ar rywbeth tebyg yn dy gymuned.
Gall rhannu enghreifftiau llwyddiannus dy helpu i ddadlau dy achos dros yr hyn hoffet ei wneud. Efallai y gallet ymweld â rhai o’r enghreifftiau hyn i ddysgu mwy a mynd â’r plant yno gyda thi i weld beth maen nhw’n ei feddwl.
Mae’r enghreifftiau hyn o bob math o sefydliadau a grwpiau yng Nghymru, yn cynnwys rhieni, cymdeithasau chwarae, cynghorau, ysgolion, cefn gwlad a sefydliadau diwylliannol. Maen nhw’n arddangos dulliau gwahanol, wedi eu teilwra i’r lleoliad, y plant neu angen penodol yn y gymuned.