Hyrwyddo plentyndod yn llawn chwarae

Blog yn eich croesawu i ymgyrch a gwefan newydd Plentyndod Chwareus

Croeso i wefan newydd Plentyndod Chwareus.

Mae Plentyndod Chwareus yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr, neiniau, teidiau, mam-guod, tad-cuod a grwpiau cymunedol i roi digonedd o gyfleoedd da i blant chwarae.

Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn. Mae chwarae’n hwyl ac mae wastad wedi bod yn rhan o sut y bydd plant yn dysgu a thyfu. Dyma un o elfennau pwysicaf eu bywydau - mae plant yn gwerthfawrogi cael amser, lle a rhyddid i chwarae adref ac yn eu cymuned leol.

Fel oedolion, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae gan y mwyafrif ohonom atgofion da a hapus o chwarae ac rydym yn sylweddoli gwerth chwarae. Ond mae ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb i gadw plant yn ddiogel ac yn brysur yn heriol i rieni a chymunedau.

Magu plant yn chwareus

Mae rhieni a gofalwyr yn gefnogwyr pwysig o chwarae i blant - waeth beth fo’u hoedran. Waeth os ydi dy blentyn yn dal i chwarae pi-po, yn neidio mewn pyllau d?r, neu’n dechrau bod eisiau mentro allan ar eu pen eu hunain gyda ffrindiau, mae adran Magu Plant yn Chwareus y wefan yn llawn awgrymiadau anhygoel, syniadau da a chynghorion defnyddiol am chwarae i bob plentyn.

Cymunedau chwareus

Mae gan grwpiau fel cymdeithasau trigolion, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon ysgolion a chynghorau tref a chymuned i gyd ran bwysig i’w chwarae, fel trefnu digwyddiadau awyr agored neu ymgyrchu am ardaloedd chwarae plant a thrwy helpu i hybu newid mewn agweddau ac arferion. Mae adran Cymunedau Chwareus y wefan yn cynnwys toreth o wybodaeth a chynghorion i helpu grwpiau ystyried chwarae plant yn eu cymuned.

Plentyndod Chwareus

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru ac mae’r wefan yn rhan bwysig ohoni. Rydym wedi gweithio gyda rhieni i geisio creu gwybodaeth a syniadau i gefnogi:

  • rhieni i roi cyfleoedd i’w plant chwarae
  • rhieni i deimlo’n hyderus ynghylch gadael i’w plant chwarae’r tu allan yn y gymuned
  • datblygiad cymunedau chwareus ar gyfer plant ym mhob cwr o Gymru
  • dealltwriaeth gytûn o bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau gan oedolion ar draws Cymru gyfan.

‘Mae gen i hawl i chwarae hefyd’

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Amser sgrîn

Erthygl nesaf
English