Gwyliwch ein fideo ‘unbocsio’!

I lansio #ProsiectChwarae fe adawon ni focs o gemau a deunyddiau chwarae ar iard chwarae ysgol. Dyma beth ddigwyddodd:

Beth yw #ProsiectChwarae?

Mae Prosiect Chwarae yn anelu i dynnu teuluoedd oddi wrth sgriniau i chwarae’r tu allan ac i ailymweld â symlrwydd a phleser gemau’r gorffennol. Boed hynny ar y traeth, mewn parc, neu ar stryd ddiogel y tu allan i’r t?.

Trwy Prosiect Chwarae rydym eisiau rhoi chwistrelliad o hwyl ac ysbryd yn ôl i mewn i chwarae syml, bywiog, llawn dychymyg – yn union fel y mae oedolion heddiw’n ei gofio o’u plentyndod.

Rydym eisiau gweld beth wyt ti’n ei wneud i gael dy blant i chwarae tu allan. Tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter – a defnyddia #ProsiectChwarae fel y gallwn ni ei rannu!

Mae’n gwefan yn llawn awgrymiadau a chynghorion defnyddiol ac ymarferol – o syniadau chwarae syml ac am ddim, i anturiaethau bob dydd, i awygrymiadau anhygoel ar gyfer rheoli amser sgrin

Canllaw Cymunedau Chwareus

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Diwrnod Chwarae – a chwarae bob dydd

Erthygl nesaf
English