“Dwi’n bôôôôred!”

Dwi’n bôôôôred!

Fel rhieni a gofalwyr, sawl gwaith ydyn ni’n debygol o glywed ein plentyn yn dweud hyn – yn enwedig pan rydyn ni dan do, gartref?!

Does dim rhaid i fod yn ein hamgylchedd arferol fod yn ddiflas. Mae digonedd o ffyrdd hwyliog ar gyfer chwarae yn ac o amgylch y cartref er mwyn cadw’r plant yn hapus a diddan.

Dyma ein 35 syniad gorau ar gyfer chwarae adref:

    1. Rasys “?y” ar lwy (dim angen wyau go iawn - bydd pêl ping-pong yn gweithio’n iawn).
    2. Actio stori allan o lyfr
    3. Brwydr glustogau dan fwgwd (blindfold) - gwisgo hwdis y tu ôl ymlaen
    4. Addurno canhwyllau
    5. Chwarae llif draws (Cat’s cradle)
    6. Dal y dylwythen deg (gan ddefnyddio tortsh a’i goleuo mewn ystafell dywyll)
    7. Gemau clapio
    8. Brwydr cyrc … tebyg i frwydr fwyd ond gyda llai o lanast!
    9. Tynnu lluniau a lliwio i mewn
    10. Gwisgo i fyny
    11. Mae’r llawr yn lafa
    12. Mi welaf i, â’m llygad bach i…
    13. Sioe ffasiynau
    14. Chwarae cuddio
    15. Chwarae Sgots (Hopscotch) - creu’r grid gyda thâp ar lawr
    16. Modelu jync gydag eitemau t? heb fod yn rhy fawr
    17. Disgo yn y gegin
    18. Creu ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardbord
    19. Creu cuddfannau
    20. Creu awyrennau papur
    21. Creu bydoedd bychain gyda dinosoriaid, ceir bach, anifeiliaid bach
    22. Cadeiriau cerddorol
    23. Cwrs rhwystrau - gan ddefnyddio clustogau’r soffa, cadeiriau,
    24. Ping-pong neu bêl foli gyda bal?n
    25. Chwarae ysgol, caffi, swyddfa, siop, trin gwallt
    26. Creu perfformiad
    27. Carreg / papur / siswrn
    28. Drymiau sosbannau
    29. ‘Simon says’
    30. Sgipio neu Sgipio Ffrengig (gydag elastig)
    31. Pypedau sanau
    32. Sledio lawr grisiau mewn bocsys cardbord a chasys gobenyddion
    33. Cerrig sarn gyda chlustogau
    34. Te parti / picnic dan do
    35. Helfa drysor

 

Sawl un all eich teulu chi ei wneud?

Mwy o syniadau chwarae

Mae gennym hefyd rywfaint o syniadau ar gyfer chwarae poitshlyd:

  • Paentio
  • Creu ‘glŵp’ neu lysnafedd
  • Creu a chwarae gyda thoes chwarae
  • Creu swigod gyda gwellt yfed
  • Creu cacennau mwd, swynion a phersawr.

Mae bod yn boitshlyd yn rhan naturiol o blentyndod ond os oes gennych unrhyw bryderon, darllenwch ein cynghorion ar ddelio gyda chwarae poitshlyd!

Pam fod chwarae’n bwysig

Mae chwarae - y tu mewn a’r tu allan - yn dda i blant. Pan fydd plant yn dewis beth i’w chwarae, gyda phwy i chwarae, a sut i drefnu eu chwarae, fe fyddan nhw’n cael mwy o hwyl. Yn ogystal, mae plant yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae. Mae chwarae’n helpu plant i ddatblygu: hunan-barch, dychymyg, creadigedd, cydsymudiad corfforol, hyder, canolbwyntio, sgiliau cyfathrebu, balans… ond yn bennaf oll, mae chwarae’n hwyl!

Ymunwch yn yr hwyl

Rydym yn paratoi ar gyfer adeg pan fydd rhaid i rieni a’u plant aros adref. Os hoffech chi fod yn rhan o’r hwyl a helpu teuluoedd eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn, anfonwch fideo atom ohonoch chi a’ch teulu yn rhannu eich syniadau chwarae dan do gorau neu, os hoffech fwy o wybodaeth, mae croeso ichi ein e-bostio.

 Hefyd, rhannwch eich syniadau chwarae gyda ni - tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol – FacebookInstagram a Twitter – a defnyddiwch #ProsiectChwarae!

Gall 35 syniad chwarae dan do cael eu hargraffu a'u rhannu.

Myfyrdodau rhiant sy’n addysgu gartref

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Chwarae ar hyd y lle

Erthygl nesaf
English