Rhowch gyfle i blant chwarae tu hwnt i gatiau’r ysgol

Mae’r wisg ysgol wedi’i smwddio, mae’r esgidiau wedi’u glanhau, mae’r bagiau wedi’u pacio – mae’n amser i blant fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf.

Efallai bod yr Haf o Chwarae drosodd ond ‘dyw gwneud amser ar gyfer chwarae gyda dy blentyn ddim yn stopio yn y gwyliau. Parhewch yr hwyl trwy annog dy blant i chwarae ar ôl ysgol.

Chwarae ar ôl ysgol 

Mae chwarae yn bwysig ar gyfer iechyd, lles a datblygiad plant. Mae rhoi digonedd o amser a lle i dy blant i chwarae ar ôl ysgol – gartref ac allan yn eu cymuned – yn hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd. Mae gan chwarae bob math o fuddiannau ar gyfer plant – yn gorfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol – ond yn bwysicaf oll, mae chwarae’n hwyl!

Mae yna lawer o ffyrdd cyflym a hawdd i chwarae ar ôl ysgol. Dyma ein pump syniad syml i wneud noson dy blentyn yn chwareus:

  1. Cer i’r maes chwarae 
  2. Archwilio’r ardd neu’r parc lleol 
  3. Drwmio gyda photiau a sosbenni 
  4. Chwarae cuddio 
  5. Chwarae gêm o tic. 

Mwy o syniadau chwarae

Beth am chwarae yr hanner tymor hwn?!

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Gemau hwyliog a syniadau chwareus i roi tro arnynt

Erthygl nesaf
English