Beth am chwarae yr hanner tymor hwn?!

Ewch allan i archwilio, chwarae a chael hwyl yr hanner tymor hwn! Mae cael plant y tu allan i chwarae, defnyddio eu dychymyg, ac archwilio yn bwysig ar gyfer eu lles, eu gwytnwch a'u datblygiad – yn ogystal â’u hapusrwydd.

Dyma rai syniadau gan deulu Lewis am chwarae yn yr awyr agored, ymgysylltu â natur, a dod i adnabod y byd o'ch cwmpas.

Chwilio am ragor o syniadau chwarae i geisio’r hydref hwn? Rhowch gynnig ar rhain:

  • Chwarae ‘Pooh sticks’
  • Creu siapiau cysgod
  • Chwilio am bethau hydrefol wrth fynd am dro
  • Creu cuddfan
  • Mynd ar helfa sborion
  • Cerfio pwmpen
  • Chwarae cuddio yn y tywyllwch
  • Dal dy gysgod
  • Neidio mewn pyllau
  • Gwylio’r sêr.
  • Cynnig Gofal Plant Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant

    Erthygl flaenorol
    Yn ôl i’r holl erthyglau

    Rhowch gyfle i blant chwarae tu hwnt i gatiau’r ysgol

    Erthygl nesaf
    English