Cynnig Gofal Plant Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant

 
 

Ysgrifennwyd gan Lywodraeth Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru wrthym sut y gall rhieni sy’n gweithio yng Nghymru gael cymorth ariannol ychwanegol tuag at ofal plant ac addysg gynnar.

Rhieni sy’n gweithio ledled Cymru – ydych chi’n gwybod am Gynnig Gofal Plant Cymru?

Mae cynllun Cynnig Gofal Plant Cymru Llywodraeth Cymru eisoes wedi helpu llawer o rieni a gofalwyr plant tair a phedair oed ar draws Cymru i:

  • ddychwelyd i weithio
  • cynyddu eu horiau gweithio
  • gweithio’n fwy hyblyg.

Mae wedi helpu eraill i fanteisio ar gyfleoedd prentisiaeth, datblygu eu sgiliau, newid eu swydd, neu hyd yn oed ddechrau eu busnes eu hunain.

Beth yw Cynnig Gofal Plant Cymru?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn rhoi arian gan y llywodraeth ar gyfer hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni sy’n gweithio yng Nghymru, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.

Yn ystod tymor yr ysgol, mae’r 30 awr yn cael ei rhannu’n ddwy ran:

  • lleiafswm o 10 awr o ddarpariaeth addysg gynnar
  • uchafswm o 20 awr o ofal plant gan ddarparwr sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Yn ogystal â 39 wythnos o gyllid yn ystod y tymor, mae’r Cynnig hefyd ar gael ar gyfer hyd at naw wythnos o wyliau’r ysgol bob blwyddyn, a gall rhieni hawlio tair wythnos am bob tymor ysgol maen nhw’n manteisio ar y Cynnig. Bydd union nifer yr wythnosau gwyliau y gallwch eu cael yn dibynnu ar bethau fel pen-blwydd eich plentyn a’r dyddiad y dechreuwch fanteisio ar y Cynnig.

Gallwch gael gofal plant wedi’i ariannu trwy unrhyw feithrinfa breifat, Cylch Meithrin, lleoliad gofal sesiynol, cylch chwarae neu warchodwr plant sydd wedi cytuno i ddarparu’r Cynnig yn eich ardal ac sydd wedi’i gofrestru gydag AGC. Gallwch gael addysg gynnar mewn meithrinfa ysgol neu leoliad gofal plant sydd wedi’i gymeradwyo i ddarparu addysg gynnar gan eich awdurdod lleol.

Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gyfer gwybodaeth leol, gan gynnwys pa leoliadau yn eich ardal sy’n darparu pob elfen o’r Cynnig.

Sut gall fy helpu i?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael i helpu rhieni sy’n gweithio yng Nghymru. Gallai ychydig o arian ychwanegol bob wythnos fynd ymhell tuag at ddarparu pethau pwysig i’ch teulu, a gallai ychydig o amser ychwanegol roi cyfle i chi ddychwelyd i weithio neu gynyddu’ch oriau.

Dywed Matt, tad o Rondda Cynon Taf:

‘Roedd yr arian yn golygu y gallai fy ngwraig fynd yn ôl i weithio am bedwar diwrnod o’r wythnos yn lle tri, a oedd o gymorth mawr ac wedi ysgafnhau’r pwysau mewn llawer o ffyrdd, nid dim ond yn ariannol. Yna, fe argymhelles i’r Cynnig i fy nheulu a ffrindiau, ac fe fanteision nhw arno hefyd.’

Yn ogystal â’r manteision di-ri i rieni, rhaid peidio ag anghofio am fuddiannau fynd i ofal plant ac addysg gynnar ar gyfer eich plentyn, gan gynnwys datblygu ac yn ffynnu gyda’i gyfoedion, yn gwneud ffrindiau ac yn cael hyd i’w ffordd yn y byd.

Sut galla’ i wybod a ydw i’n gymwys?

Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio sy’n byw yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y Cynnig. Edrychwch ar y prif feini prawf isod, a ddylai roi syniad i chi ynghylch a ddylech chi wneud cais:

  • Mae’n rhaid bod eich plentyn yn dair neu’n bedair oed
  • Mae’n rhaid eich bod yn gweithio ac yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog cenedlaethol am 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd – mae hyn yn berthnasol i rieni sengl a’r ddau riant mewn teuluoedd â dau riant
  • Mae’n rhaid eich bod yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn.

Edrychwch i weld os ydych chi’n bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd.

Cofiwch – mae Cynnig Gofal Plant Cymru yma i helpu teuluoedd ar draws y wlad. Beth fyddech chi’n ei wneud gydag ychydig o gymorth ariannol ychwanegol tuag at ofal plant? Efallai ei bod hi’n bryd darganfod.

Mwy o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant Cymru

 

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Beth am chwarae yr hanner tymor hwn?!

Erthygl nesaf
English