Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae

Dathlwyd Diwrnod Plant y Byd eleni ar 20 Tachwedd ond mae’n bwysig i ni fel rhieni a gofalwyr barhau i gefnogi hawliau plant pob dydd. Mae hyn yn cynnwys hawl plant i chwarae.

Mae hawliau plant yn cael eu cydnabod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r confensiwn yn rhestru’r 42 o hawliau sydd gan blant a phlant yn eu harddegau (dan 18 oed). Mae’n berthnasol i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau – waeth pwy ydyn nhw, waeth ble y maen nhw’n byw a waeth beth y maen nhw’n ei gredu.

Mae chwarae’n un o hawliau dy blentyn ble bynnag y bo – adref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol. Felly, mae rhaid i ni sicrhau bod gan ein plant y lle, amser a’r rhyddid i chwarae heddiw, yfory a bob dydd.

I helpu, mae ganddom ni adnoddau a phosteri gwybodaeth rhad ac am ddim am hawl plant i chwarae. Gellir eu rhannu gyda phlant eraill a gydag oedolion – mae’n ffordd wych i atgoffa eraill am pa mor bwysig yw chwarae.

“Dy’n ni ddim mor wahanol i chi, ’dan ni jesd yn gwneud tiktoks”

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Cynnig Gofal Plant Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant

Erthygl nesaf
English