Yr hydref – y tymor i chwarae

Mae dyfodiad yr hydref yn aml yn arwydd o dywydd oerach, diwrnodau byrrach ac ambell gawod law. Er ei bod yn demtasiwn swatio dan do, mae cyfleoedd chwarae cyffrous ar gael yn yr awyr agored, ble bynnag rydych yn byw.

Mae’r tymor hwn yn ymwneud â chroesawu newid ac annog plant i archwilio, darganfod pethau newydd ac i chwarae. Dyma ambell weithgaredd chwarae llawn hwyl ar gyfer yr hydref i gynorthwyo eich teulu i wneud y gorau o’r adeg hon o’r flwyddyn. Edrychwch ar ein fideo pump syniad chwarae ar gyfer yr hydref i gael ysbrydoliaeth, ac ar y rhestr o’n pum awgrym anhygoel ychwanegol isod.

Rhestr o’n pum awgrym anhygoel ychwanegol

1. Mynd am dro yn eich esgidiau glaw: Hyd yn oed os yw hi wedi bod yn bwrw glaw yn ddiweddar, peidiwch â gadael i hyn dynnu’r gwynt o’ch hwyliau. Yn hytrach, gwisgwch eich esgidiau glaw a mentro allan i weld pwy all ddod o hyd i’r pwll mwyaf mwdlyd i neidio ynddo!

2. Chwilio am goncyrs: Mae’r hydref yn adeg gwych i gasglu concyrs. Mae’n deimlad cyffrous dod o hyd i goncyrs ymysg y dail – ac maen nhw hefyd yn wych i chwarae gemau. Edrychwch ar ein fideo Dewch i chwarae concyrs! i gael rhagor o wybodaeth.

3. Syllu ar y sêr: Mae’n nosi’n gynharach yn ystod yr hydref ac mae’n gyfle gwych i syllu ar y sêr. Dewiswch noson glir i weld faint o sêr, planedau neu gytserau allwch chi eu gweld yn yr awyr.

4. Gwneud pasteiod mwd: Os oes gennych lecyn o fwd yn eich gardd neu gerllaw, mae’n bryd i chi gael eich dwylo’n fudr. Nid oes dim byd gwell nag annog plant i chwarae’n greadigol gyda mwd a llanast! A bydd y glaw yn golchi popeth ymaith hefyd, yn barod am y tro nesaf.

5. Cerfio pwmpen: Mae llwyth o bwmpenni ar gael gyda chalan gaeaf ar y gorwel. Beth am ddod o hyd i offer diogel a gadael i’ch plentyn roi cynnig ar gerfio pwmpen? Gall plant ddefnyddio eu dychymyg i greu wynebau doniol, patrymau brawychus neu unrhyw beth o’u dewis – cofiwch sicrhau bod oedolyn wrth law i oruchwylio.

Yn y bôn, mae’r hydref yn dymor sy’n ein hannog i addasu, archwilio ac yn bwysicach oll, i chwarae. Mae’n ymwneud â chanfod pleser yn y pethau bychain, hyd yn oed os yw hynny ond yn golygu gwrando ar sŵn crensian y dail dan droed neu edrych ar seren ddisglair yn y pellter. Felly, ewch i ysbryd y tymor a rhoi rhwydd hynt i’ch dychymyg. Mae’r hydref ar y gorwel!

Mae chwarae yn y gaeaf yn brrrr-iliant!

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Iechyd meddwl ieuenctid a chwarae

Erthygl nesaf
English