Mae chwarae yn y gaeaf yn brrrr-iliant!

 

Mae’r gaeaf wedi cyrraedd ac mae’r tymheredd yn gostwng, sy’n aml yn golygu ein bod yn treulio llawer llai o amser y tu allan – yn enwedig pan ddaw’n fater o chwarae. Ond mae bod y tu allan, hyd yn oed mewn tywydd oerach, yn fuddiol i blant mewn nifer o ffyrdd. Gall gynnig llawer o wahanol gyfleoedd i fod yn chwareus, yn ogystal â helpu plant i gadw’n fywiog, datblygu system imiwnedd iach, defnyddio eu dychymyg, bod yn greadigol ac ymgyfarwyddo gyda’r newid yn y tymhorau.

Gall annog plant i dreulio amser y tu allan mewn tywydd oer fod yn heriol. Ond gall lapio eu hunain mewn sgarffiau, menig, capiau, welis neu esgidiau gaeaf, cotiau a digon o haenau helpu plant i gadw’n gynnes a chyfforddus y tu allan.

Mae hefyd yn adeg gyffrous o’r flwyddyn i brofi bod y tu allan – ble mae’r nosweithiau tywyll yn dod â goleuadau ac addurniadau disglair ar strydoedd, mewn gerddi a ffenestri. Ar noson glir, gall hyd yn oed edrych i fyny ar awyr serog deimlo’n hudol a llawn posibiliadau.

Yn ogystal, mae cwrdd â ffrindiau’r tu allan i fwynhau rhedeg o gwmpas mewn tywydd gaeafol yn annog plant i anghofio am yr oerfel a mwynhau amser yn yr awyr iach… A chofiwch – gall sgwrsio am y posibilrwydd bod diwrnod eira ar y gorwel yrru’r plant allan yn llawn cyffro!

Am rywfaint o ysbrydoliaeth ar sut i fwynhau chwarae yn ystod y gaeaf, darllenwch trwy ein rhestr o wyth syniad syml, hwyliog:

  1. ewch am dro yng ngolau torshis o amgylch eich cymdogaeth
  2. ewch ar helfa sborion aeafol (cadwch lygad am y celyn pigog!)
  3. ewch ati i greu porthwr hadau i adar y gaeaf a’i hongian yn yr ardd
  4. adeiladwch guddfan yn y coed, yr ardd neu yn y tŷ
  5. casglwch bethau naturiol i greu crefftau tymhorol
  6. ewch ar helfa synau i wrando am dylluanod ac adar eraill
  7. ceisiwch greu rhew neu iâ trwy rewi dŵr y tu allan

 

Ac i gloi, ond yn bennaf oll – os daw’r diwrnod eira hwnnw…

  1. Beth am greu dyn eira?

 

Chwiliwch am fwy fyth o ysbrydoliaeth

Darllenwch ein blogiau eraill am fwy o syniadau ar bethau fel chwarae poitshlyd a pharatoi plant i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus.

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer amser sgrîn

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Yr hydref – y tymor i chwarae

Erthygl nesaf
English