Gall plant ac arddegwyr ddweud eu dweud drwy Senedd Ieuenctid Cymru

A oes gan dy blentyn achos neu angen sy’n bwysig iddyn nhw, yr hoffai godi ei lais a gweithredu drosto? Os felly, gallent gymryd rhan yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Beth yw Senedd Ieuenctid Cymru?

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i blant ac arddegwyr yng Nghymru ddweud eu dweud am eu hawliau ac am y pethau sydd o bwys iddynt. Mae’n rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn wrth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru – am bethau fel eu hawl i chwarae, yn ogystal â’u haddysg, iechyd, yr amgylchedd a mwy.

Mae'r Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei rhedeg gan blant ac arddegwyr. Mae'n cynnwys 60 o aelodau rhwng 11 a 18 oed o bob rhan o Gymru sy'n cael eu pleidleisio bob dwy flynedd mewn etholiadau. Os yw dy blentyn rhwng 11 a 18 oed, yn byw neu'n derbyn ei addysg yng Nghymru, mae ganddynt hawl i bleidleisio yn yr etholiadau hyn, neu hyd yn oed enwebu eu hunain fel ymgeisydd!

Cymryd rhan

Ym mis Mai 2024 mae ymgyrch etholiadol nesaf Senedd Ieuenctid Cymru yn dechrau. Yn ystod yr ymgyrch gall plant ac arddegwyr gofrestru i bleidleisio, enwebu eu hunain fel ymgeisydd, a thrafod y materion sy'n effeithio fwyaf arnynt fel pobl ifanc yng Nghymru.

Os hoffai dy blentyn gymryd rhan, gwna’n siŵr i ddilyn Senedd Ieuenctid Cymru ar Facebook, X/Twitter neu Instagram a chadwa lygad ar eu gwefan am ragor o wybodaeth yn agosach at yr amser.

Dysga fwy am Senedd Ieuenctid Cymru

Cymer olwg ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru i ddysgu mwy am faterion y mae’r aelodau wedi bod yn ymwneud â nhw, gan gynnwys:

#FyNiwrnodYsgol – fe wnaeth plant ac arddegwyr ddweud eu dweud am syniad Llywodraeth Cymru i gynyddu hyd y diwrnod ysgol.

#MeddyliauIauOBwys – lleisiodd plant ac arddegwyr eu barn am faterion iechyd meddwl a’r cymorth sydd ar gael.

Ffyrdd syml o chwarae gartref

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer amser sgrîn

Erthygl nesaf
English