Ffyrdd syml o chwarae gartref

Mae yna lawer o ffyrdd syml, hawdd i dy blentyn chwarae a chael hwyl gartref. Gall plant wneud defnydd creadigol o unrhyw ofod sydd ar gael – hyd yn oed gornel mewn ystafell – os ydynt yn cael rhyddid i chwarae a rhywfaint o deganau neu bethau eraill i helpu eu dychymyg.

Yn aml, y pethau symlaf rydyn ni'n eu gwneud sy'n gallu troi'n fwyaf o hwyl a sbri!

Dyma rai syniadau gan y teulu Hamilton ar gyfer ffyrdd syml o chwarae ac annog dychymyg dy blentyn o gwmpas y cartref.

Chwilio am ysbrydoliaeth i gefnogi chwarae dy blentyn gartref? Rhowch gynnig ar rhain:

  1. Rasys “ŵy” ar lwy (dim angen wyau go iawn - bydd pêl ping-pong yn gweithio’n iawn)
  2. Actio stori allan o lyfr
  3. Brwydr glustogau dan fwgwd (blindfold) – gwisgo hwdis y tu ôl ymlaen
  4. Addurno canhwyllau
  5. Chwarae llif draws (Cat’s cradle)
  6. Dal y dylwythen deg (gan ddefnyddio tortsh a’i goleuo mewn ystafell dywyll)
  7. Gemau clapio
  8. Brwydr cyrc … tebyg i frwydr fwyd ond gyda llai o lanast!
  9. Tynnu lluniau a lliwio i mewn
  10. Gwisgo i fyny
  11. Mae’r llawr yn lafa
  12. Mi welaf i, â’m llygad bach i…
  13. Sioe ffasiynau
  14. Chwarae cuddio
  15. Chwarae Sgots (Hopscotch) – creu’r grid gyda thâp ar lawr
  16. Modelu jync gydag eitemau tŷ heb fod yn rhy fawr
  17. Disgo yn y gegin
  18. Creu ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardboard
  19. Creu cuddfannau
  20. Creu awyrennau papur
  21. Creu bydoedd bychain gyda dinosoriaid, ceir bach, anifeiliaid bach
  22. Cadeiriau cerddorol
  23. Cwrs rhwystrau – gan ddefnyddio clustogau’r soffa, cadeiriau
  24. Ping-pong neu bêl foli gyda pêl chwyddadwy
  25. Chwarae ysgol, caffi, swyddfa, siop, trin gwallt
  26. Creu perfformiad
  27. Carreg / papur / siswrn
  28. Drymiau sosbannau
  29. ‘Simon says’
  30. Sgipio neu Sgipio Ffrengig (gydag elastig)
  31. Pypedau sanau
  32. Sledio lawr grisiau mewn bocsys cardbord a chasys gobenyddion
  33. Cerrig sarn gyda chlustogau
  34. Te parti / picnic dan do
  35. Helfa drysor

Sawl un all dy deulu di ei wneud?

Gall ein rhestr 35 syniad chwarae dan do cael eu hargraffu a'u rhannu.

Syniadau hawdd, di-straen ar gyfer chwarae yn yr awyr agored

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Gall plant ac arddegwyr ddweud eu dweud drwy Senedd Ieuenctid Cymru

Erthygl nesaf
English